Fy ngwlad:

Graddau Er Anrhydedd i ddathlu canrif a chwarter

Syr David Attenborough

Sir David Attenborough

Cyflwynwyd Syr David Attenborough, OM, CH, darlledwr a naturiaethwr, gyda Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2009 i nodi eu 125 mlwyddiant.

Bu tad Syr David yn astudio yn y Coleg Normal, Bangor, a threuliodd y teulu wyliau yn yr ardal sawl gwaith.

Meddai Syr David: "Rwyf wrth fy modd ac yn ei theimlo'n anrhydedd mawr i dderbyn y Radd er Anrhydedd. Treuliais sawl gwyliau hapus ar Ynys Môn, yn astudio adar a'r ffosiliau gwych ar lan y môr ym Mhenmon.

Mae'n wefr hefyd oherwydd yr enw da eithriadol sydd i'r Brifysgol hon ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd. Does r'un anrhydedd rwy'n ei werthfawrogi'n fwy na'r rhai a roddir gan brifysgol.

Rwy'n meddwl mai prifysgolion yw'r sefydliadau pwysicaf yn ein cymdeithas. Hwy yw'r unig fannau lle nad oes unrhyw berthynas rhwng gwirionedd â masnach na gwleidyddiaeth. Mae sefydliadau o'r fath yn brin a dylid eu mawrygu. Os oes un ohonynt yn rhoi anrhydedd i chi yna dylech ei drysori."

Rhodri Morgan

Rhodri Morgan (1939 - 2017)

Cyflwynwyd cyn Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan, â Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2009 i nodi eu 125 mlwyddiant.

Dywed y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan am yr achlysur:

"Mae'r berthynas rhwng prifysgolion Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn un agos dros ben. Mae heddiw'n gyfle i gofio'r aberth a wnaeth yr hen chwarelwyr ac eraill wrth sefydlu'r Brifysgol hon, a sefydliadau cenedlaethol eraill a oedd yn rhagflaenwyr i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n teimlo ei bod yn fraint aruthrol i dderbyn y radd gyntaf a ddyfarnwyd gan Brifysgol Bangor ac i gael f'ystyried ymysg y bobol sy'n derbyn graddau heddiw." 

Yr Athro Sir John Meurig Thomas (1932 -2020)

John Meurig Thomas

Cyflwynwyd yr Athro Sir John Meurig Thomas, FRS, Athro Er Anrhydedd Cemeg Gyflwr Solet, Prifysgol Caergrawnt, a chyn-Feistr Peterhouse, Caergrawnt, a Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2009.

Dechreuodd Syr John ar ei yrfa academaidd ym Mangor tua diwedd y 1950au.

"Mae'n bleser o'r mwyaf gennyf dderbyn yr anrhydedd yma. Dechreuais fy ngyrfa academaidd yma ac mae hon yn wefr a fydd yn aros gyda mi gydol fy oes. Dyma lle cefais y cyfle gyntaf i ddysgu ac ymchwilio yn yr Ysgol Gemeg yn 25 oed. Roedd gennyf ryddid deallusol llwyr a nifer fawr o fyfyrwyr deallus a chydweithwyr da. Roedd yn Goleg bach ar y pryd gyda 800 o fyfyrwyr a 90 aelod staff," meddai Syr John Meurig Thomas FRS.

Yr Archesgob Desmond Tutu (1931 - 2021)

Desmond Tutu

Derbyniodd un o'r ffigurau cyhoeddus uchaf eu parch yn y byd, yr Archesgob Desmond Tutu, wedi derbyn un o Raddau er Anrhydedd cyntaf gan Brifysgol Bangor ym mis Mehefin 2009.

Ymunodd Archesgob Desmond Tutu, Archesgob Emeritws Cape Town, enillydd Gwobr Heddwch Nobel a chyn-Gadeirydd y Comisiwn Gwirionedd a Chymod yn Ne Affrica, â thri unigolyn arall i dderbyn Doethuriaethau Er Anrhydedd mewn seremoni arbennig yn y Brifysgol. 

Yn ystod ei araith dywedodd yr Archesgob Tutu: 

"Mae Cymru wedi bod yn agos at fy nghalon bob amser ..... Mae arnom ddyled sylweddol i chi; pa wnaethom ennill y fuddugoliaeth ryfeddol yn erbyn apartheid, ni fyddai'r fuddugoliaeth honno wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth llawer o gymunedau rhyngwladol ac roeddech chi yng Nghymru ymysg ein cefnogwyr mwyaf ymroddedig."