Pam Astudio Plismona?
Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a gweithdai ac mae'n ceisio rhoi sylfaen drylwyr i fyfyrwyr mewn amrywiaeth o faterion a themâu allweddol sy'n ofynnol i weithio fel heddwas, gan gynnwys:
- Cyd-destun plismona cyfoes, diwylliant yr heddlu, modelau plismona (gan gynnwys plismona cymunedol a phlismona ar sail tystiolaeth)
- Datblygu, rôl, trefniadaeth a llywodraethu'r ymdrechion i leihau ac atal troseddau a niwed, ac i sicrhau diogelwch personol a chyhoeddus mewn gwahanol leoliadau
- Mesurau atal troseddau a'u heffeithiolrwydd
- Tueddiadau ym maes troseddau ac erledigaeth; gwahanol fathau o droseddau a'u cyd-destun cymdeithasol (gan gynnwys troseddau cyfundrefnol; e-droseddu a therfysgaeth)
- Dulliau damcaniaethol gwahanol o astudio, dadansoddi ac egluro trosedd, ymddygiad gwyrdröedig ac erledigaeth.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Plismona llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Plismona ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Plismona ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Plismona
Mae ymchwil cyffrous a phwysig ein staff academaidd ym maes Troseddau, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithas yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd.
Mae gan ein ymchwilwyr ddiddordeb mewn effeithiau troseddu a chyfiawnder troseddol ar gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys ymchwil byd-enwog a wneir yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas yn archwilio sut y darlunnir troseddu yn y newyddion a'r cyfryngau adloniant, datblygu polisïau ar yr ymatebion priodol i droseddu, newidiadau mewn trefniadau cyfiawnder cymdeithasol ar adeg o gyni cyllidol, yn ogystal â chwestiynau damcaniaethol ehangach am lywodraethu drwy droseddu a chyfiawnder.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.