Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Arwain ymchwil i ficroplastigion

Effaith ein hymchwil

Plastig yw'r math mwyaf cyffredin o falurion morol a geir yn nyfroedd y byd. Gall malurion plastig ddod mewn bob maint, ond gelwir y rhai sy'n llai na phum milimetr o hyd yn ficroblastigau ac maent yn destun pryder cynyddol i'n hamgylchedd.

Prifysgol Bangor yw un o'r sefydliadau cyntaf i ymchwilio i bresenoldeb microplastigion mewn dyfroedd mewndirol gydag astudiaeth arloesol yn y Deyrnas Unedig sy'n cael sylw yn y cyfryngau ledled y byd mewn cydweithrediad â Chyfeillion y Ddaear.  Ers hynny, rydym wedi sefydlu nifer o brojectau amlwg sy'n edrych ar bresenoldeb a symudiad microplastigion mewn afonydd, moroedd a chefnforoedd ledled y byd.

Mae prosiectau’n cynnwys gweithio gyda sefydliadau fel We Swim Wild a Surfers Against Sewage, a chreu a gweithredu ar brosiect gwyddoniaeth dinasyddion mwyaf o’i fath yn y DU, a oedd yn ceisio mapio presenoldeb microblastigau yn nyfroedd y DU.

Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad ymchwil blaenllaw ar lygredd plastig ac mae wedi creu Canolfan Ymchwil Plastig Cymru (PRC Cymru) sy’n dod ag academyddion a sefydliadau sydd â diddordeb ynghyd i ymchwilio i bob agwedd ar ddefnyddio plastig, llygredd plastig a dewisiadau eraill o blastig.

Mae gwaith o’r fath yn hanfodol os ydym am ddeall maint yr argyfwng llygredd plastig yr ydym yn ei wynebu - ac yn hollbwysig, yr hyn y gallwn ei wneud yn ei gylch. Cael dull amlddisgyblaethol o'r fath yw'r unig ffordd i fynd i'r afael â'r trychineb amgylcheddol yn ystyrlon, ac mae Prifysgol Bangor yn arwain y ffordd wrth wneud hynny.

Dr Christian Dunn,  Uwch Ddarlithydd yn y Gwyddorau Naturiol, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Plastig Cymru a Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?