Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Adam Steven Gulliver

Ni allaf orbwysleisio'r gefnogaeth a roddir gan Ysgol y Gyfraith.

Adam Steven Gulliver

Adam Steven Gulliver 

Bargyfreithiwr yn Siambrau Senate House
Astudiodd: LLB y Gyfraith, 2014 

Rwyf ar hyn o bryd yn fargyfreithiwr Cyfraith Teulu yn gweithio o Siambrau Senate House, wedi fy lleoli yn Northampton. Mae fy ymarfer yn canolbwyntio'n bennaf ar waith yn gysylltiedig â phlant, y gellir ei isrannu'n fras yn Gyfraith Breifat (anghydfodau rhwng rhieni yn ymwneud â phlant) a Chyfraith Gyhoeddus (achosion lle mae Awdurdodau Lleol yn dod yn gysylltiedig â theuluoedd oherwydd pryderon ynglŷn â lles plant).

Adam Steven Gulliver

"Ni ellir gorbwysleisio’r dylanwad a gafodd Bangor ar fy ngyrfa a fy mywyd. Roedd y ffordd y cyflwynwyd yr addysgu ym Mangor, ynghyd â'r gefnogaeth academaidd a bugeiliol ragorol a gefais, wedi caniatáu i mi ffynnu yn academaidd, ac arwain at ennill gradd Dosbarth Cyntaf. Rwy'n priodoli'r llwyddiant mawr hwnnw i raddau helaeth, nid yn unig i'm gwaith, ond hefyd i ymrwymiad ac ymroddiad y darlithwyr ac ansawdd cyffredinol Ysgol y Gyfraith ei hun. 

“A thu hwnt i hynny, ni allaf orbwysleisio’r gefnogaeth a roddir gan Ysgol y Gyfraith, o ran fy helpu i gael lleoliadau profiad gwaith a’u hanogaeth aruthrol i fyfyrwyr wneud gweithgareddau allgyrsiol hollbwysig.

"O safbwynt personol mae Bangor yn ddinas hyfryd, ryfeddol a bywiog sydd â chymaint i'w gynnig. Wnes i fwynhau fy amser yno, mae gen i atgofion hyfryd a gadewais gyda ffrindiau gydol oes. 

"O safbwynt academaidd, o ran sicrhau llwyddiant, credaf fod Bangor yn rhoi sylfaen ragorol i bob myfyriwr. Mae'n brifysgol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf a staff ymroddedig, a'u prif nod yw eich gweld yn llwyddo. Ond oherwydd ei maint cymedrol, mae hefyd yn brifysgol lle mae’r holl fyfyrwyr yn cael cyfle i ddweud eu barn, cael eu clywed a'u cefnogi'n briodol."

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?