Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Elly Baker

Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi i fod yn fwy na dim ond myfyriwr.

Elly Baker

Elly Baker

Pennaeth Datblygu Prosiectau yn YipiYap
Astudiodd: BA Almaeneg gyda Sbaeneg, 2018 

Dewisais astudio ym Mangor ar ôl bod mewn diwrnod agored a theimlo’n gartrefol. Roedd rhywbeth am yr adran ieithoedd fach, y golygfeydd hyfryd a'r wynebau cyfeillgar a wnaeth i Fangor ymddangos mor groesawgar.

Elly Baker

“Ond yr hyn a wnaeth i mi benderfynu ar Fangor, oedd y staff yn yr adran Ieithoedd Tramor Modern, a wnaeth fy helpu i ymroi i fywyd yn y brifysgol. O fy annog i siarad yng Nghaergrawnt yn ystod fy mlwyddyn olaf, i'm henwebu ar gyfer y Wobr Dewis Staff am fy ngwaith fel Cynrychiolydd Cwrs, roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi i fod yn fwy na dim ond myfyriwr.

“Treuliais y ddwy flynedd a hanner gyntaf ar ôl y brifysgol naill ai’n gweithio yn yr Almaen, neu’n gweithio gyda chleientiaid sy’n siarad Almaeneg. Does dim angen dweud bod fy ngradd wedi fy mharatoi ar gyfer hynny, ond un fantais llai amlwg oedd yr effaith fawr a gafodd ar fy ngallu i siarad yn gyhoeddus, fy ngwytnwch, a fy ngallu i gymryd un risg ar ôl y llall! 

“Rwyf bellach  yn gweithio yn Yipiyap, prif ddarparwr cefnogaeth tiwtora mewn ysgolion ym maes Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Mae fy swydd bresennol wedi'i rhannu'n ddwy: Datblygu Busnes, a Rheoli Projectau. Rwy'n sefydlu ac yn cynnal partneriaethau gyda sefydliadau addysgol, yn datblygu modelau neu wasanaethau busnes newydd, ac yn rheoli projectau gyda'n partneriaid! Ar ôl blwyddyn yn y swydd hon, rwyf wedi symud ymlaen yn ddiweddar i fod yn rheolwr llinell.

“Mae Bangor yn dref wych ac yn brifysgol gwell fyth. Roedd fy athrawon a’m darlithwyr gyda’r gorau yn y byd ac roedd wir yn bwysig iddynt ein bod yn cael y radd orau bosibl. Roeddwn yn dysgu dosbarth yn ystod fy mlwyddyn dramor yn Berlin, ac ar fy niwrnod cyntaf, rhoddodd yr athro Almaeneg lyfr i mi a oedd wedi ei ysgrifennu gan fy nhiwtor personol ym Mangor. Sôn am fyd bach! Os nad yw hynny'n eich argyhoeddi, wn i ddim beth fydd!” 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?