Pryd mae Clirio?
Mae Clirio yn cychwyn ar ddydd Mercher, 5 Gorffennaf 2024.
Beth yw Clirio?
Mae Clirio yn rhoi cyfle i ymgeiswyr sydd heb gael lle mewn prifysgol wneud cais am le ar gwrs sydd heb lenwi. Mae Clirio ar gael i unrhyw un sydd wedi gwneud cais am gwrs israddedig trwy UCAS ond sydd ddim eto yn dal unrhyw gynnig. Mae Clirio hefyd ar gael i’r sawl sydd heb wneud cais o gwbl i brifysgol ar gyfer mis Medi. Pob blwyddyn, mae miloedd o ymgeiswyr yn cael lle ar gwrs prifysgol trwy’r broses Clirio.
Pwy all wneud cais drwy Clirio?
Mae Clirio yn cychwyn ar ddydd Mercher, 5 Gorffennaf 2024 ac yn agored i:
- rai sydd wedi gwneud cais am gwrs israddedig trwy UCAS sydd ddim yn dal unrhyw gynnig
- rai sydd heb wneud unrhyw gais i brifysgol ar gyfer mis Medi yma.
Efallai byddwch yn cael eich ystyried fel rhywun sydd yn rhan o’r broses Clirio oherwydd un o’r rhesymau canlynol:
- ar ddiwrnod canlyniadau Lefel-A, nid ydych wedi cyflawni gofynion mynediad eich prifysgol sy’n ddewis cadarn gennych na’r brifysgol sy’n ddewis wrth gefn.
- ar ddiwrnod canlyniadau, rydych wedi cyflawni gofynion eich prifysgol sy’n ddewis cadarn gennych neu’r brifysgol sy’n ddewis wrth gefn ond rydych wedi newid eich meddwl ac eisiau mynd i brifysgol arall. Yn yr achos yma, byddwch angen ‘rhyddhau eich hun' fel eich bod yn gallu dod yn rhan o’r broses Clirio.
- nid ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol ar gyfer mis Medi yma ac rydych yn dymuno gwneud cais trwy Clirio am gwrs sy'n cychwyn yn yr hydref.
Mynegi diddordeb ymgeisio drwy’r drefn Glirio 2024
Pam dewis Prifysgol Bangor trwy Clirio?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw.
- Sicrwydd o lety i fyfyrwyr Clirio sy’n astudio yng nghampws Bangor.
- Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
- Rydym yn rhoi blaenoriaeth i ofalu am a chefnogi ein myfyrwyr.
- Aelodaeth am ddim o dros 150 o Glybiau a Chymdeithasau.