Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Pwrpas y cwrs microgymhwyster hwn yw arfogi unigolion â gwybodaeth a sgiliau craidd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau’r cwrs Microgymhwyster: Atal Heintiau 1 cyn cofrestru ar y cwrs hwn.
Pryd byddaf yn cychwyn?
Byddwn yn cynnig dau ddyddiad cychwyn gwahanol ar gyfer y cwrs microgymhwyster hwn. Bydd y cyntaf yn dechrau Chwefror 26 2024 ac yr ail 22 Ebrill 2024.
Beth yw hyd y cwrs?
50 awr (5 awr o ddysgu; 45 awr o astudiaeth annibynnol dan arweiniad).
Pam astudio'r cwrs yma?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ymgysylltu a rhwydweithio ag eraill sydd â diddordebau tebyg. Bydd y cwrs hwn yn helpu myfyrwyr i archwilio pynciau atal a rheoli heintiau allweddol sy'n berthnasol i'w maes gwaith ac ymarfer broffesiynol.
Tiwtor
Tracey Cooper
Ymunodd Tracey â Phrifysgol Bangor yn 2022 fel Darlithydd mewn Gwyddorau Iechyd (Atal a Rheoli Heintiau), ar ôl bod yn Ddarlithydd er Anrhydedd gyda'r brifysgol am nifer o flynyddoedd. Mae wedi gweithio ym maes atal a rheoli heintiau ers 1996, gan gynnwys fel Ymgynghorydd Nyrsio arbenigol, ac ar lefel Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Cynorthwyol o fewn amrywiaeth o sefydliadau’r GIG, gan ymddeol o’r GIG yn 2022. Mae’n parhau’n weithredol fel aelod o’r Gymdeithas Atal Heintiau yn ogystal â’i gwaith gyda Phrifysgol Bangor.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’n adeiladu ar gynnwys y modiwl y dysgu yn y cwrs Microgymhwyster: Atal Heintiau 1.
Mae pryderon byd-eang am heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd yn parhau. Pwrpas y cwrs micro gymhwyster hwn yw arfogi unigolion â gwybodaeth a sgiliau craidd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'n canolbwyntio ar:
- Risgiau haint a gyflwynir gan ddyfeisiadau ymledol ac eithafion oedran
- Arferion gorau o ran rheoli dyfeisiau ymledol
- Lliniaru'r risgiau o heintiad sy'n deillio o eithafion oedran
Deilliannau dysgu
- Dadansoddi risgiau haint sy'n deillio o ddefnyddio dyfeisiau ymledol ac eithafion oedran mewn ffordd gritigol.
- Gwerthuso’r llenyddiaeth am arferion clinigol sy'n lleihau'r risg o haint yn deillio o ddefnyddio dyfeisiau ymledol ac eithafion oedran mewn ffordd gritigol.
Sut bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno?
Bydd y cwrs yn cynnwys cyfres o 5 uned ddysgu ar-lein gyda phob un yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â dyfeisiau ymledol a/ neu eithafion oedran, yn ogystal ag atal a rheoli heintiau. Bydd myfyrwyr yn cyrchu'r rhain yn eu hamser eu hunain (yn anghydamserol). Bydd y dysgu hwn yn cyfrif am 35 awr o amser astudio.
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys dau seminar cydamserol ar-lein sy’n cyfateb i 3 awr o amser astudio, a dau fforwm trafod ysgrifenedig (cydamserol) sy’n cyfateb i 2 awr o amser astudio.
Bydd y rhain yn hwyluso dysgu cysyniadau, damcaniaethau ac ymchwil allweddol, ac yn hwyluso datblygiad sgiliau meddwl critigol a datrys problemau.
Gofynnir i fyfyrwyr ddatblygu 2 flog adfyfyriol ffurfiannol, a fydd wedyn yn cael eu datblygu'n ddyddlyfrau adfyfyriol. Bydd yr asesiadau hyn yn cyfrif am 10 awr o amser astudio.
Bydd y cwrs yma ar-lein.
Gofynion Technegol
Cwrs ar-lein yw hwn a gyflwynir trwy Blackboard Ultra, sef amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Bangor. Bydd gofyn i fyfyrwyr gael mynediad at gysylltiad rhyngrwyd sefydlog, TG a chyfrifiadur a meddalwedd cyfoes, meicroffon a chlustffonau neu seinyddion.
Wythnos 1:
Uned dysgu ar-lein
Seminar Byw
Wythnos 2:
Uned dysgu ar-lein
Fforwm trafod
Cyflwyno blog adfyfyriol 1 ar ddiwedd yr wythnos
Wythnos 3:
Uned dysgu ar-lein
Seminar Byw
Wythnos 4:
Uned dysgu ar-lein
Fforwm trafod
Cyflwyno dyddlyfr adfyfyriol 1
Wythnos 5:
Uned ar-lein
Cyflwyno blog adfyfyriol 2 ar ddiwedd yr wythnos
Ar ôl wythnos 5:
Cyflwyno dyddlyfr adfyfyriol 2
Cost y Cwrs
- £250.00 (yn cynnwys TAW).
- Mae ysgoloriaeth llawn ar gael i dalu ffioedd dysgu’r cwrs i bob unigolyn sy'n derbyn lle ar y cwrs. Ewch i'r dudalen Gwneud Cais er mwyn derbyn cyfarwyddiadau pellach.
Gofynion Mynediad
Dylai’r darpar ymgeiswyr feddu ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol (2(ii) neu uwch).
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai yr ystyriwn eich cais.
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau’r modiwl Microgymhwyster: Atal Heintiau 1 cyn cofrestru ar y cwrs hwn.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau isod cyn gwneud cais. Mae’r cyfarwyddiadau’n nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano, a bydd dilyn y cyfarwyddiadau’n arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth bresennol;
- Blynyddoedd o brofiad a hanes cyflogaeth (fel sy'n berthnasol)
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o gwblhau'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISIO.
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau annibynnol', yna dewiswch ‘Ôl-raddedig a addysgir nad yw’n graddio’.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch ‘Non-Graduating Taught Modules in Health (NGGT/HEALTH)'. Cliciwch ‘Cadw a Pharhau’.
- Yn y dudalen nesaf, newidiwch ateb y cwestiwn cyntaf i ‘Rhan amser'.
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl. Ar gyfer Atal Heintiau 1, y cod yw MSE-4129. Rhaid cwblhau'r adran hon i sicrhau fod eich cais yn cael ei brosesu.
- Rhaid i chi nodi dyddiad dechrau’r cwrs hefyd. Mae'r cwrs hwn yn rhedeg ddwywaith y flwyddyn (Medi ac Ionawr). Dewiswch un o'r opsiynau hyn, yna cliciwch ‘Cadw a Pharhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, dylech uwchlwytho’r ddogfen a baratowyd gennych ar ddechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yma. Cliciwch ‘Cadw a Pharhau'.
Mae angen i chi gynnwys gwybodaeth am y cymhwyster uchaf sydd gennych chi, e.e. os oes gennych chi gymhwyster ôl-raddedig, dim ond y wybodaeth yma sydd ei angen.
Bydd y system yn gofyn am dystiolaeth o'r cymhwyster. Os ydy'r dystiolaeth wrth law, mae modd i chi ei uwchlwytho yma. Peidiwch â phoeni os nad ydyw gennych chi, gallwch uwchlwytho'r ddogfen Word yma eto (i fodloni'r system).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Darperir ysgoloriaeth sy'n talu ffi'r cwrs i bawb a dderbynnir ar y cwrs hwn. Dewiswch ‘Efrydiaeth a hysbysebwyd gan Brifysgol Bangor' ar gyfer y cwestiwn cyntaf.
Nodwch 'Ysgoloriaeth HEFCW' pan ofynnir am enw'r ysgoloriaeth a dewiswch 'Na' ar gyfer y cwestiwn olaf. Cliciwch ‘Cadw a Pharhau’