Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ysgol Busnes Bangor yw'r unig sefydliad yn y byd sy'n gallu cynnig MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol, 'Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol).'
Mae’r cymhwyster newydd arloesol hwn yn eich galluogi i ennill MBA ynghyd â statws proffesiynol Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS).
Dyfernir yr MBA mewn partneriaeth â ManchesterCF, darparwyr hyfforddiant gwybodaeth ariannol fyd-eang, mae'r statws Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS) yn gosod safon newydd ym myd gwybodaeth ariannol.
Cyflwynir yr MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol (FCCMBA) trwy ddysgu o bell yn rhan-amser a gellir astudio’r cwrs mewn unrhyw leoliad sydd â chysylltiad rhyngrwyd da. Mae'r rhaglen yn pwysleisio meysydd gwrth-wyngalchu arian mewn gwahanol gyd-destunau, gwrth-lygru a chydymffurfio â sancsiynau. Yn seiliedig ar Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Bancio Cynaliadwy, mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar gyfyngu ar droseddu a therfysgaeth trwy ddiwydrwydd sefydliadau ariannol.
Mae’r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn cynnig sgiliau a gwybodaeth lefel uchel o brifysgol a chanolfan ragoriaeth ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, ynghyd ag arbenigwyr byd-eang mewn bancio rhyngwladol, gwybodaeth ariannol a chydymffurfiaeth.
- Nod yr MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yw datblygu rhagolygon gyrfa arbenigwyr ym maes rheoleiddio ariannol a gwrth-wyngalchu arian yn ogystal â'r rhai sydd â diddordeb mynd i'r maes hwn.
- Mae cydymffurfio â rheoliadau ariannol yn faes twf ac mae llawer o swyddi ar gael mewn gwasanaethau ariannol byd-eang. Mae’r rhaglen hon yn edrych ar bryderon parhaus ynglŷn â sut y gellir cyfyngu ar droseddau a therfysgaeth drwy ddiwydrwydd sefydliadau ariannol.
- Mae'r profiad dysgu lefel uchel a dwys hwn hefyd yn cyfuno modiwlau MBA cyffredinol mewn adnoddau dynol, economeg reolaethol, dulliau ymchwil a strategaeth gorfforaethol â rhai mwy arbenigol, gan alluogi cyfranogwyr i ymgeisio am swyddi uwch yn y diwydiant.
Mae ManchesterCF yn darparu rhaglenni hyfforddiant gwybodaeth ariannol ar-lein i sefydliadau ariannol, unedau gwybodaeth ariannol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith ledled y byd.
Wedi'u lleoli yn Toronto, mae gan eu hymchwilwyr a'u cyfranwyr ddegawdau o brofiad yn eu priod feysydd. Mae eu harbenigedd yn deillio o brofiad cadarn mewn bancio rhyngwladol, deallusrwydd ariannol a chydymffurfiaeth.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol wedi ei gynllunio'n benodol at ddibenion gwaith proffesiynol a chaiff ei gyflwyno trwy ddysgu o bell yn rhan-amser.
Mae’r rhaglen yn cynnwys wyth modiwl, pedwar modiwl sy’n canolbwyntio ar bynciau MBA cyffredinol, a phedwar modiwl pwnc-benodol a astudir dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae'r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn cychwyn yn unai Ebrill neu Hydref.
Modiwlau Rheolaeth
Asesir y pedwar modiwl rheolaeth trwy aseiniad ysgrifenedig o 2000 o eiriau gydag arholiad cyfrifiadurol 2 awr.
Dyma’r modiwlau sy’n canolbwyntio ar bynciau MBA cyffredinol:
- Strategaeth Gorfforaethol
- Adnoddau Rheolwr: Sefydliad Dadansoddol
- Pobl ac Ymddygiad Sefydliadol
- Rheoli Newid: Mewnwelediadau o Farchnata
Modiwlau Pwnc-Benodol
Mae’r modiwlau Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol werth 30 credyd yr un ac yn cael eu hasesu trwy ddau ddarn o waith, 5500 a 1500 gair, fesul modiwl. Fel eithriad, mae'r cwrs Cyflwyniad i Droseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn cynnwys cyflwyniad wedi ei recordio.
Dyma’r modiwlau pwnc-benodol:
- Cyflwyniad i Droseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol
- Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio
- Agweddau Dynol ar Droseddau Ariannol Byd-eang
- Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol Byd-eang
I gael rhagor o wybodaeth am bob modiwl penodol, gweler isod:
Modiwlau Rheolaeth
Trosolwg ar y Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn ystyried theori ac ymarfer llunio a gweithredu strategaeth. Ceir llawer o batrymau a chamau gweithredu a dulliau busnes sy'n diffinio strategaeth sefydliad a byddwch yn cael cyfle i nodi'r rhai sy'n berthnasol i gwmnïau gwasanaethau ariannol. Y sector gwasanaethau ariannol yw un o’r sectorau diwydiant a reoleiddir fwyaf a chaiff goblygiadau hyn ynghyd â nodweddion y cynhyrchion gwasanaeth eu nodi drwy gydol y modiwl. Caiff y theori a'r egwyddorion sy'n sail i weithrediadau a gweithgareddau busnes eu harchwilio a chymhwysir y wybodaeth i gwmnïau gwasanaethau ariannol. Wrth gwblhau'r unedau ar gyfer y modiwl, cyfeirir at reoli gwasanaethau a gweithrediadau; nodweddion unigryw gwasanaethau a all fod yn her neu'n gyfle i ddyfeisio a gweithredu strategaeth gorfforaethol unigryw a llwyddiannus. Fel darpar arweinwyr busnes a gwneuthurwyr penderfyniadau’r dyfodol, mae'n allweddol eich bod yn deall hanfod gweithrediadau busnes a'r ffactorau sy'n cyfrannu at fantais gystadleuol cwmni.
Trosolwg ar y Modiwl
Trosolwg ar y Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar faterion allweddol sy'n codi o ymchwil gyfoes i reolaeth adnoddau dynol ac ymddygiad sefydliadol. Mae’n darparu dadansoddiad integredig o reolaeth, sefydliadau a phobl, gan ddatblygu’r sgiliau cysyniadol, strategol ac ymarferol sy’n angenrheidiol i reolwyr.
Trosolwg ar y Modiwl
Modiwlau Pwnc-Benodol
Enw: Mrs Deborah Mitchell
E-bost: d.a.mitchell@bangor.ac.uk
Ffon: +44 (0) 1248 38 38 00
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniad o wyngalchu arian, a theipoleg cyffredin ymddygiad o’r fath. Mae hyn yn cynnwys ystyried rhwymedigaethau cyfreithiol, asesiad risg rheoleiddio a'r lefelau diwydrwydd ac adrodd sy'n ofynnol i rwystro gwyngalchu arian. Yn y modiwl rhagarweiniol hwn, cyflwynir myfyrwyr i agweddau ar feddwl yn feirniadol fel sail i dasgau diwydrwydd dyladwy a datrys problemau at ddibenion deallusrwydd ariannol. Maent yn datblygu'r gallu i ymchwilio i lenyddiaeth academaidd a phroffesiynol, cyflwyno gwybodaeth mewn modd priodol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd (rheoleiddiol, corfforaethol yn ogystal ag academaidd).
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i'r rhaglen ehangach, ac yn darparu sylfaen addysg i ystyried atal gwyngalchu arian. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad i faterion gwyngalchu arian a rheoleiddio, a'r angen i feddwl yn feirniadol ac adfyfyrio mewn ymchwiliadau ariannol. Mae'r modiwl hefyd yn adolygu'r hanfodion a'r safonau sydd eu hangen i gynhyrchu gwybodaeth mewn modd cryno, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i gynhyrchu adroddiadau llawn gwybodaeth ar wybodaeth ariannol i wahanol randdeiliaid sydd â diddordeb mewn craffu ar 'gydymffurfiaeth'.
Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio'r cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol ar hanfodion atal gwyngalchu arian, meddwl yn feirniadol a chyflwyno gwybodaeth i gyflwyno ystod eang o achosion yn y byd go iawn.
Uned 1 - FIU Connect Critical Thinking
Uned 2 - FIU Connect Fundamental AML
Uned 3 - FIU Connect Report Writing
Bydd uned FIU Connect Financial Investigations hefyd yn cael ei ddarparu fel rhywbeth cyffredinol i’w ddarllen ar draws y rhaglen, a bydd yn cael ei gyflwyno yn ystod y modiwl Cyflwyniad i Droseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth.
Dulliau Asesu
Asesir y modiwl yn ôl dwy elfen:
- Adroddiad yn mynd i’r afael â’r pwnc a osodwyd ar ‘Hanfodion Atal Gwyngalchu Arian’, gan gynnwys adfyfyrio ar y broses ymchwil a pharatoi adroddiadau (4000 o eiriau)
- Paratoi a recordio cyflwyniad yn ymwneud ag elfen Hanfodion Atal Gwyngalchu Arian yr adroddiad (10 munud o hyd)
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl yn ystyried troseddau ariannol a chudd-wybodaeth am farchnadoedd cyfalaf, a bancio preifat a gweithredu ar ran banc arall. Cyflwynir myfyrwyr i gysyniadau a dulliau rheoleiddio yn y tri chyd-destun, cyn dysgu am wahanol ddulliau a ddefnyddir i ganfod troseddau, lliniaru effaith a rhwystro ymddygiad o'r fath. Trafodir cynnyrch, rheoli risg a'r strwythurau sefydliadol ehangach sy'n berthnasol i bob sefyllfa. Gellir addasu'r is-sectorau bancio penodol o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar ddatblygiadau perthnasol yn y diwydiant.
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae'r modiwl yn rhoi archwiliad manwl o themâu cyfredol mewn troseddau ariannol sy'n codi mewn gweithredu ar ran banc arall, bancio preifat a marchnadoedd cyfalaf. Ar gyfer pob lleoliad cyflwynir y myfyriwr i wybodaeth am gynnyrch a chyd-destun sefydliadol i alluogi gwerthusiad beirniadol o ganfod a lliniaru troseddau ariannol a gwyngalchu arian. Mae'r modiwl yn cynnwys astudiaethau achos o gamau goruchwylio diweddar ac enghreifftiau o setliadau ariannol a gafwyd gan sefydliadau na fu iddynt gydymffurfio.
Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol gweithredu ar ran banc arall, bancio preifat a marchnadoedd cyfalaf i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.
Uned 1 - FIU Connect Capital Markets
Uned 2 - FIU Connect Correspondent Banking
Uned 3 - FIU Connect Private Banking
Dulliau Asesu
Mae'r asesiad project bach ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio yn cynnwys dwy ran:-
- Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri phwnc yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
- Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).
Trosolwg o’r Modiwl
Trafodir y ddeddfwriaeth a'r amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddio ehangach ar gyfer diffinio, nodi a gwrthsefyll ymddygiad troseddol yng nghyd-destun masnachu pobl, ymddygiad llwgr a chryptoasedau. Mae’r modiwl hefyd yn ystyried technegau a dulliau o ganfod y troseddau hyn a dulliau priodol o fonitro ac adrodd am ymddygiad o’r fath – o drafodion amheus unigol i ymchwiliadau cynhwysfawr gan asiantaethau gweithredu'r gyfraith.
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae’r modiwl yn ystyried ymddygiad dynol mewn tri maes cyfoes o droseddu ariannol sy’n tyfu – ymddygiad llwgr, masnachu pobl, a chryptoasedau. Ar gyfer pob un o'r meysydd hyn o droseddu ariannol, bydd y modiwl yn amlinellu sut mae trosedd o'r fath yn datblygu, yn gallu ffynnu, yn gallu cael ei ganfod a sut y gellir atal troseddau o'r fath a brwydro yn eu herbyn. Mae'r modiwl yn trafod ymatebion priodol i sefydliadau a rheolwyr pan fyddant yn wynebu ymddygiad o'r fath.
Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol ymddygiad llwgr, masnachu pobl a chryptoasedau i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.
Uned 1 - FIU Connect Corruption
Uned 2 - FIU Connect Human Trafficking
Uned 3 - FIU Connect Cryptoassets
Dulliau Asesu
Mae'r asesiad project bach ar gyfer Elfennau Dynol Troseddau Ariannol Byd-eang yn cynnwys dwy ran:-
- Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Elfennau Dynol Troseddau Ariannol Byd-eang yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri thestun yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
- Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Elfennau Dynol Troseddau Ariannol Byd-eang fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn ystyried yr amgylchedd deddfwriaethol a rheoleiddiol sy'n diffinio ac yn ceisio rheoli troseddau ariannol sy'n gysylltiedig â chamfanteisio amhriodol ar yr amgylchedd ffisegol, a gwyngalchu arian yn seiliedig ar fasnach. Asesir y sancsiynau economaidd a ddefnyddir yn aml i annog cydymffurfiaeth. Amlinellir y cymhellion ar gyfer datblygiad cychwynnol a pharhad pob trosedd a sut y gellir eu canfod. Cyflwynir ymatebion polisi priodol i rwystro a brwydro yn erbyn troseddau o'r fath.
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae’r modiwl yn ystyried cyd-destun sefydliadol ehangach cymdeithasau o gwmpas y byd sy’n pwysleisio fwyfwy eu pryder ynghylch difrod i’r amgylchedd ffisegol – i genedlaethau o ddinasyddion heddiw ac yfory. Mae troseddau amgylcheddol yn amrywio o lygredd in situ i fasnachu adnoddau amgylcheddol rhwng cenhedloedd. Mae llywodraethau sofran yn aml yn cyflwyno sancsiynau economaidd ar genhedloedd eraill neu sefydliadau unigol (gan gynnwys banciau) i gyfyngu ar fasnach o'r fath. Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau ariannol werthfawrogi'r mathau hyn o droseddau er mwyn ymgysylltu'n effeithiol â'r agenda cynaliadwyedd.
Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol troseddau’n seiliedig ar fasnach a throseddau amgylcheddol a sancsiynau economaidd i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.
Uned 1 - FIU Connect Economic Sanctions
Uned 2 - FIU Connect Trade-Based Money Laundering
Uned 3 - FIU Environmental Crime
Dulliau Asesu
Mae'r asesiad project bach ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang yn cynnwys dwy ran:-
- Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri thestun yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
- Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).
Strwythur Astudio Enghreifftiol
Bydd strwythur eich astudiaethau yn dibynnu ar faint y byddwch yn ymuno yn y rhaglen. Gweler y strwythur astudio enghreifftiol isod ar gyfer pob blwyddyn astudio:
Semester 1 | Semester 2 | Semester 3 | Semester 4 |
---|---|---|---|
Dulliau Ymchwil ar gyfer Penderfyniadau Busnes Cyflwyniad i Droseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol |
Strategaeth Gorfforaethol Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio |
Pobl ac Ymddygiad Sefydliadol Agweddau Dynol ar Droseddau Ariannol Byd-eang |
Economeg Reolaethol Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol Byd-eang |
Dysgwch fwy am y dulliau dysgu a'r adnoddau sydd ar gael i chi yn ystod eich astudiaeth yma.
Cost y Cwrs
£19,500 yw’r ffioedd i astudio’r cwrs MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol
Mae ffioedd y cwrs yn cynnwys:
- Seminarau ar-lein, tiwtorialau, grwpiau trafod a chefnogaeth
- Yr holl ddeunydd cwrs
- Hawl i ddefnyddio llyfrgell ar-lein a phorth dysgu Prifysgol Bangor
- Pob asesiad
Sylwer y bydd rhaid talu blaendal i sicrhau eich lle ar y rhaglen. Bydd rhaid talu hefyd ar ddechrau pob semester.
Mae eithriadau o dalu am y modiwlau rheoli a ffi â chymhorthdal ar gael i raddedigion y rhaglen MBA Banciwr Siartredig.
Cynlluniau Talu Hyblyg
Er mwyn helpu i ledaenu cost y rhaglen, rhoddir opsiynau i dalu ar sail fisol neu semester. Cysylltwch gyda ni i drafod ymhellach drwy ebostio executiveeducation@bangor.ac.uk
Ariannu
Hydref 2024
Mae ysgoloriaeth gwerth £3,000 ar gael i ymgeiswyr cymwys ar gyfer rhaglen MBA Banciwr Siartredig ar gyfer derbyniad Hydref 2024. Yn berthnasol i ymgeiswyr rhaglen lawn yn unig ac yn amodol ar dderbyn taliad blaendal. Bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei chymhwyso'n awtomatig i'ch cynnig unwaith y bydd y ffurflen gais wedi'i chwblhau.
Cymhellion Corfforaethol
Mae gostyngiadau corfforaethol ar gael i weithwyr sy'n cael eu cefnogi'n ariannol. Cysylltwch â'r tîm Addysg Weithredol ar executiveeducation@bangor.ac.uk i gael gwybod mwy.
Opsiynau Talu Hyblyg
Er mwyn helpu i ledaenu cost y rhaglen, rhoddir opsiynau i dalu ar sail semester neu fisol. Fel arall, rhoddir gostyngiadau lle gwneir taliad yn llawn ar ôl ymuno*. Cysylltwch â'r tîm Addysg Weithredol i drafod eich opsiynau.
*Ni ellir cynnig gostyngiadau ar y cyd ag unrhyw gymhelliant neu gynnig arall.
Gofynion Mynediad
I fod yn gymwys i astudio'r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol mae angen y canlynol:
- Gradd israddedig briodol o brifysgol gydnabyddedig ac o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol ar lefel berthnasol.
- Bydd llwybrau astudio carlam sy'n seiliedig ar eithrio modiwlau unigol yn cael eu hystyried ar gyfer myfyrwyr o MBA Banciwr Siartredig Bangor, ac ar gyfer graddedigion graddau meistr perthnasol o brifysgolion cydnabyddedig.
Asesir ymgeiswyr yn unigol. Er enghraifft, byddai mynediad i'r rhaglen yn gofyn am radd gyntaf sy'n gyfwerth ag o leiaf Gradd Baglor Prydeinig Ail Ddosbarth Is (2:2) a/neu feddu ar gymhwyster proffesiynol cymeradwy a phrofiad ymarferol. Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt radd ffurfiol neu gymhwyster proffesiynol, ond sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad rheoli cymeradwy yn cael eu hystyried hefyd. Efallai y bydd ymgeiswyr am gyflwyno eu CV i'w asesu, cysylltwch gyda copi drwy ebostio executiveeducation@bangor.ac.uk
Rhaid i ymgeiswyr fod â lefel uchel o ruglder yn yr iaith Saesneg. Os nad Saesneg yw eich iaith frodorol, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol bod gennych wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o Saesneg ysgrifenedig a llafar:
- IELTS: 6.0 (heb unrhyw elfen o dan 5.5)
- Pearson PTE: sgôr o 56 (heb unrhyw elfen yn is na 51)
- Prawf Saesneg Caergrawnt – Uwch: 169 (heb unrhyw elfen yn is na 162)
Gyrfaoedd
Nod yr MBA Troseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth yw datblygu rhagolygon gyrfa ar gyfer arbenigwyr Rheoleiddio Ariannol a Gwrth-wyngalchu Arian yn ogystal â'r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa yn yr maes hwn.
Nodau addysgol:
- Datblygu dealltwriaeth ddatblygedig o achosion a dulliau o frwydro yn erbyn troseddau ariannol a chamweddau cysylltiedig yn y sector ariannol.
- Meithrin dealltwriaeth ddatblygedig o'r fframwaith rheolaethol, proffesiynol, moesegol, cyfreithiol a rheoleiddiol y mae sefydliadau gwasanaethau ariannol yn gweithredu ynddo, gan ganolbwyntio'n benodol ar liniaru gwyngalchu arian a throseddau ariannol eraill.
- Gwella sgiliau dysgu gydol oes a datblygiad personol sgiliau deallusol ac astudio trosglwyddadwy. Mae'r nodweddion hyn yn briodol iawn i yrfa yn y proffesiynau bancio a chyllid, ac eto heb fod yn gyfyngedig i'r dewisiadau gyrfa hynny.
- Ymgorffori gwerthfawrogiad dwfn o faterion cynaliadwyedd a chydymffurfiaeth o fewn y ddarpariaeth o wasanaethau ariannol.
Gwneud Cais
Gwahoddir ceisiadau i ymuno â charfan nesaf yr MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn dechrau yn Hydref 2024. Mae'r ffurflen gais i'w llenwi ar-lein yma
Ar ôl cofrestru ar y rhaglen, bydd gan fyfyrwyr 3 mis o'u semester cyntaf i ddarparu copïau ardystiedig o'u tystysgrifau.
Gwneir y cais am yr MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn uniongyrchol i'r adran Addysg Weithredol trwy gwblhau'r ffurflen ar-lein hon yn unig.