10/23 Dathlu Diwrnod Menopos y Byd a Sesiynau Cefnogi Menopos i Ddod
Ddydd Gwener 20 Hydref,, dathlodd y Brifysgol Ddiwrnod Menopos y Byd trwy gynnal gweminar ryngweithiol ar sut i gefnogi cydweithwyr sy'n mynd trwy’r menopos. Cyflwynodd RCS, menter gymdeithasol yng Ngogledd Cymru sy’n cefnogi lles yn y gweithle, sesiwn a oedd yn rhoi cyngor ar strategaethau ymdopi ac addasiadau rhesymol yn y gweithle. I gydweithwyr nad oedd yn gallu ymuno â'r sesiwn hon, mae'r recordiad ar gael yma.
Mae dwy sesiwn Cefnogi Menopos Staff ychwanegol i ddod:
Dydd Iau, 23 Tachwedd, 1:00pm – 2:00pm (MS Teams) – sesiwn holi ac ateb fyw gyda Dr Jen Cooney, Hyfforddwr Iechyd. Mae croeso i pob cydweithiwr – os hoffech gyflwyno eich cwestiwn ymlaen llaw, gwnewch hynny drwy’r ffurflen hon. Ychwanegwch y digwyddiad hwn i'ch calendr Outlook trwy glicio yma
Dydd Gwener 1 Rhagfyr, 9:00am – 10:30am – Hunanofal yn ystod y Menopos, sesiwn yn y cnawd yn Ystafell Dinorwig, Neuadd Reichel gyda Sian Evans MBSCP – archebwch eich lle yma.
Methu dod i’r sesiynau hyn? Mae cyfres o sesiynau Lolfa Menopos wedi’u recordio sydd ar gael i gydweithwyr wrando arnynt unrhyw adeg – mae’r rhain yn ymdrin â phynciau fel therapi amnewid hormonau, lles emosiynol a straen, a’r menopos a maetheg. Ymunwch â'r grŵp Teams a chliciwch ar sianel Adnoddau Dysgu'r Lolfa.
Mae’n bleser gennym hefyd lansio ein Casgliad Menopos newydd, rhestr gynyddol o lyfrau i’w harfogi a’u hysbysu, sydd ar gael i staff a myfyrwyr.
Cynhelir yr hyfforddiant Ymwybyddiaeth Menopos nesaf i reolwyr llinell ar Teams ddydd Gwener 8 Rhagfyr – archebwch eich lle yma.