NEWYDDION DIWEDDARAF O'R YSGOL
[0:02] Yng geiriau Syr David
[0:04] rydym yn wynebu trychineb byd-eang o'n gwneuthuriad ni ein hunain.
[0:16] Newid hinsawdd, colli cynefinoedd, llygredd a difodiant y trychfilod
[0:18] yn bygwth diwedd gwareiddiadau,
[0:19] a dinistrio rhan helaeth o
[0:22] fyd natur. Llygredd plastig ymhob
[0:26] afon a môr yn llygru ein bwyd,
[0:28 ]ac yn lladd miloedd o adar
[0:30] ac anifeiliaid y môr bob blwyddyn.
[0:36] Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cynyddu,
[0:39 ac yn y 30 mlynedd diwethaf collasom fforestydd
[0:41] glaw maint De Affrica - sy'n hanfodol ar gyfer
[0:44] cadw a storio llwythi o garbon.
[0:49] Ond, does dim rhaid i hyn fod...
[0:55] Gyda'r wybodaeth iawn, gallwn wneud gwahaniaeth.
[0:58] Gyda'r ymchwil iawn, gallwn gynllunio dyfodol
[1:01] arall ar gyfer ein planed.
[1:03] ac, ym Mhrifysgol Bangor, gallwch chwarae
[1:06] eich rhan chi yn hynny. Trwy astudio'r
[1:09] potensial sydd i greu ynni adnewyddol gyda'r tonnau a'r llanw
[1:13] ar fwrdd llong ymchwil y brifysgol...
[1:15] Trwy ymchwilio i ymddygiad y gwenyn a
[1:17] thechnegau i adfer cynefinoedd
[1:19] ar fferm y brifysgol ac ailgyflwyno rhywogaethau brodorol
[1:22] er mwyn gwella'r peilliad... Trwy ddefnyddio
[1:25] data o ddyfeisiau sydd wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd i dywys
[1:27] ein camau gweithredu ar lygredd yr awyr ac allyriadau,
[1:29] lefelau nitradau, ansawdd y pridd ac ynni'r haul
[1:32] Dyna pam ddewisais i astudio yn
[1:36] yr Ysgol Gwyddorau Eigion...y Gwyddorau Naturiol...
[1:38] Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
[1:44] Ym Mhrifysgol Bangor, Gogledd Cymru
[1:50] dysgwch fwy am fyw a dysgu rhwng y môr a'r mynydd.
[1:55] Cofrestrwch am un o'n diwrnodau agored ni heddiw,
[1:59] ac ewch ymlaen i wneud gwahaniaeth.
Ein cyrsiau
MEYSYDD YMCHWIL
Mae ein hacademyddion a'n myfyrwyr yn cymryd rhan mewn projectau ymchwil ar draws y byd. Mae eu darganfyddiadau yn helpu i lunio polisïau'r llywodraeth ac yn newid yr union ffordd rydyn ni'n meddwl am bynciau pwysicaf y dydd.
Canolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol
Mae'r Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol (CAMS) yn gweithio i wella effaith ymchwil morol drwy gysylltu ymchwil academaidd â'r byd go iawn.
CYFLEON I YMUNO Â NI
Ysgol Gwyddorau Eigion, Porthaethwy, LL59 5AB