Lleoedd i fwyta, yfed a siopa
O ran bwyd a diod mae gennym amrywiaeth eang o ddewisiadau. Os ydych eisiau paned cyflym o goffi, brecwast mawr, cinio ysgafn neu swper blasus mae gennym rywbeth sy'n addas i bawb.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu bwyd blasus sy'n rhoi gwerth am arian gan ddefnyddio cynhwysion ffres ac o ffynonellau lleol lle bo modd.
Rydym yn cynnig ac yn cefnogi cynnyrch achrededig Masnach Deg yn ein holl fannau gwerthu, ac yn gweithio tuag at yr achrediad Masnach Deg newydd, rydym yn defnyddio pysgod o ffynonellau cynaliadwy ac mae ein holl wyau yn wyau maes.
Cliciwch ar y cysylltiadau isod i gael rhagor o wybodaeth am ein gwahanol leoliadau.