Cyfleusterau Dysgu ac Addysgu
Yn ogystal â'n hardaloedd dysgu, ystafelloedd TG, labordai a llyfrgelloedd, mae gennym hefyd ardd fotaneg, amgueddfa a llong ymchwil ein hunain.
Lleoliad heb ei ail
Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Ond mae Bangor yn fwy na phrydferth, mae'n cynnig cyfle gwych i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnwys y wifren wib gyflymaf yn Ewrop.
Clybiau a chymdeithasau
Cawsom ein enwi yn y 10 uchaf yn y DU yng ngwobrau WhatUni? Student Choice 2022. Gyda ystod eang o glybiau a chymdeithasau ar gael, rydych yn siwr o ddod o hyd i glwb sy'n eich siwtio chi, beth bynnag yw eich diddordebau.