Datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Rydym yn angerddol am hyrwyddo diwylliant ac ysgolheictod o stiwardiaeth amgylcheddol, gan fyw mewn cytgord, a gofalu am y byd mewn ffyrdd sy'n diwallu ein hanghenion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Byddwn, gyda’n hymchwil blaenllaw yn sylfaen i ni, yn cefnogi datblygiad Cymru fel gwlad ddwyieithog sy’n dysgu, lle ceir economi a sbardunir gan wybodaeth er budd y byd a chenedlaethau'r dyfodol.
Y pedwar egwyddor Cynaliadwyedd yn strategaeth Prifysgol Bangor.
[0:00] Prifysgol Bangor,
[0:03] yn bwerdy ymchwil
[0:06] sy'n ysgogi newid.
[0:08] Mae ein darganfyddiadau yn llunio'r byd heddiw gyda ffocws ar
[0:11] gynaliadwyedd,
[0:13] diogelu'r amgylchedd,
[0:17] adfywio iechyd cymdeithas ar ôl y pandemig,
[0:19] a hyrwyddo bywiogrwydd economaidd, cymdeithasol, dwyieithog a diwylliannol.
[ 0:28] O wella iechyd a lles,
[0:32] i ddatblygu'er economi 5G byd-eang.
[0:34] a chanfod atebion ynni i'r dyfodol.
[0:37] Gweithio mewn partneriaeth â llunwyr polisi, diwydiant, busnesau a chymunedau
[0:42] datblygu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
[0:45] i hyfforddi meddygon yfory
[ 0:48] Cefnogi'r sector Gwyddorau Bywyd
[0:52] ac ymchwil perfformiad dynol mewn Gwyddorau Chwaraeon
[0:55] Mae ymchwil Covid-19 Bangor yn llywio penderfyniadau polisi Iechyd Cyhoeddus.
[0:59] yn sefydlu rhwydwaith epidemioleg dwr gwastraff cyntaf y DU i olrhain cyfraddau heintiau.
[ 1:02] a pharatoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol.
[1:09] Mae Bangor yn datblygu technolegau a gwytnwch ym maes ynni niwclear a meddygaeth,
[1:13] trwy ein Sefydliad Dyfodol Niwclear blaenllaw.
[ 1:18] Mynd i'r afael â newid Hinsawdd
[1:19] gydag ymchwil i ynni carbon isel.
[1:22] Ymdrin ag un o faterion amylcheddol mwyaf y blaned
[ 1:25] gwastraff plastig a gorddefnyddio plastigau untro
[1:29] a gwarchod yr amrywiaeth o rywogaethau ac ecosystemau
[1:32] trwy ymchwil cadwraeth bioamrywiaeth.
[1:37] Mae ein hymchwil ar Gymru, y Gymraeg a sgiliau ieithyddol
[1:40] yn ysbrydoli cenedl ddwyieithog fywiog.
[1:45] Mae ein darganfyddiadau yn llywio addysgu
[ 1:49] gan alluogi myfyrwyr i ddysgu am ymchwil mewn amser real
[ 1:53] Mae ein hymchwilwyr yn rhannu ethos sy'n croesawu
[1:55] dewrder
[1:56] uniondeb
[1:57] cydweithio
[ 1:58] hyder
[ 1:59] ac ymddiriedaeth
[2:01] gydag agwedd fyd-eang
[2:03] sy'n ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
[2:06] Ymchwil
[2:07] wrth wraidd ein gwaith
[2:08] Ers 1884
Mwy na'r amgylchedd
Mae bod yn brifysgol wirioneddol gynaliadwy yn golygu nid yn unig edrych ar ôl ein hadnoddau naturiol a’r amgylchedd – mae’n golygu gofalu am ein cymunedau, ein diwylliant a’n hadnoddau economaidd. Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn bwriadu gwneud ein prifysgol yn gyfystyr â chynaliadwyedd..
Mae cynaliadwyedd yn fwy na’r amgylchedd, ac mae’n fwy na gwaith un adran - mae ym mhopeth a wnawn. Gan weithio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru 2015, a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ymrwymwn i unioni’r heriau y mae’r gymuned fyd-eang yn eu hwynebu.
Sustainability at Bangor
O’n modiwlau israddedig i’n prosiect ymchwil, mae popeth a wnawn yn cael ei fapio ar 17 Nod Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig a defnyddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru
Cysylltwch
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor e-bostiwch sustainability@bangor.ac.uk
#BangorGynaliadwy
Dilynwch a defnyddiwch yr hashnod #BangorGynaliadwy ar gyfer popeth cynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor ar gyfryngau cymdeithasol.