Llongyfarchiadau mawr ar gael eich derbyn i Brifysgol Bangor. Rydych ar fin ymuno â chymuned fywiog a chyfeillgar, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau ac yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd di-ri a fydd ar gael i chi. Gobeithio eich bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at gychwyn eich taith gyda ni, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Medi.
Yn rhan o'ch croesawu i Brifysgol Bangor, cewch eich gwahodd i Groeso Ffurfiol ar ddydd Llun Medi 23, ar yr adegau canlynol:
- 9.30yb-10.15yb: Ysgol Gwyddorau Naturiol.
- 10.30yb-11.15yb: Ysgol Gwyddorau Eigion; Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg.
- 11.30yb-12.15yp: Ysgol Busnes Bangor; Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas; Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau; Ysgol Addysg.
- 12.30yp-1.15yp: Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon.
Bydd yr holl sgyrsiau Croeso Ffurfiol yn cael eu cynnal yn Neuadd PJ. Os yw’r Neuadd yn llawn, gallwch wylio llif byw o’r sgwrs ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau (MALT).