Pam astudio ym Mangor?

Cyfleusterau Dysgu ac Addysgu

Yn ogystal â'n hardaloedd dysgu, ystafelloedd TG, labordai a llyfrgelloedd, mae gennym hefyd ardd fotaneg, amgueddfa a llong ymchwil ein hunain.  

Neuadd Breswyl Alaw ym Mhentref Ffriddoedd

Sicrwydd o lety mewn neuaddau o safon

Bydd ein neuaddau preswyl yn teimlo fel eich cartref newydd ymhen dim, ac mae'r ddau bentref myfyrwyr o fewn pellter cerdded o brif adeiladau'r Brifysgol. 

Rydym yn sicrhau llety i holl israddedigion, llawn amser y flwyddyn gyntaf sy’n cychwyn eu cwrs fis medi, yn gwneud cais o fewn yr adegau priodol ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn.

Mae cost y neuaddau hefyd yn cynnwys aelodaeth o Campws Byw a'r gampfa. 

Cafodd ein neuaddau y 3ydd safle yn y DU yng ngwobrau WhatUni? Student Choice yn 2019 a 2022 .

Lleoliad heb ei ail 

Myfyriwr mewn caiac ar Lyn Padarn yn Llanberis

Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Ond mae Bangor yn fwy na phrydferth, mae'n cynnig cyfle gwych i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnwys y wifren wib gyflymaf yn Ewrop.

Ein Lleoliad

Clybiau a chymdeithasau 

Aelodau o dîm pêl-fasged merched yn ystod gêm yng Nghanolfan Brailsford

Cawsom ein enwi yn y 10 uchaf yn y DU yng ngwobrau WhatUni? Student Choice 2022. Gyda ystod eang o glybiau a chymdeithasau ar gael, rydych yn siwr o ddod o hyd i glwb sy'n eich siwtio chi, beth bynnag yw eich diddordebau.

Clybiau a Chymdeithasau