Tri person yn cael sgwrs

O Afghanistan i Ynys Môn: Masi’n gwneud gwahaniaeth trwy interniaeth i raddedigion sy’n paru sgiliau a swyddi

Mae cyflogwyr sy’n chwilio am weithwyr talentog yn Ynys Môn, Gwynedd a Sir y Fflint yn cael hwb ariannol diolch i fenter interniaethau newydd i raddedigion sy’n paru sgiliau a swyddi.

“Mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Mae gan Masi lawer o syniadau arloesol ynglŷn â sut mae datblygu ein busnes ac mae’n defnyddio ei gefndir yn y ddwy iaith ac ym maes cyfrifiadureg i'n helpu i flaenoriaethu sut rydym yn datblygu ein busnes.”
Huw Watkins,  Cyfarwyddwr Gweithredol BIC Innovation.

Cyn cyrraedd y Deyrnas Unedig yn 2021, gwnaeth Masi radd israddedig mewn Saesneg yn Afghanistan a gweithio ym maes ieithyddiaeth, ac roedd ganddo ddiddordeb mewn technolegau iaith a sut mae cyfrifiaduron yn cefnogi ac yn trin ieithoedd dynol. Ar ôl ymgartrefu yng Ngogledd Cymru gyda’i wraig a’i fab ifanc, ymunodd â chwmni technolegau iaith lleol, Pai Language Learning, trwy Academi Sgiliau M-SParc. Wedi hynny, penderfynodd ddilyn cwrs MSc Cyfrifiadureg Cyffredinol yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor, cwrs sy'n rhoi llwybr i’r maes Cyfrifiadureg i raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth.

Dywedodd Masi, “Roedd yn her ar y dechrau. Ieithoedd oedd fy nghefndir, felly doeddwn i ddim wedi gwneud llawer o gyfrifiadura ers bod yn yr ysgol uwchradd! Ond cefais lawer o gefnogaeth gan fy nhiwtor personol rhagorol, sef Mohammed Mabrook, ac yn y diwedd, a chyda llawer o ddyfalbarhad, llwyddais i gwblhau fy ngradd Meistr gyda rhagoriaeth. Ar yr un pryd, roeddwn i'n gweithio gyda chwmni o'r enw 'Say Something in Welsh' a oedd yn hybu fy niddordeb mewn iaith a thechnoleg, felly pan wnes i raddio roeddwn i'n gwybod bod hwn yn ddiwydiant roeddwn i eisiau bod yn rhan ohono.”

Ar ôl graddio, cysylltodd Masi â swyddfa Cefnogi Graddedigion Prifysgol Bangor i ddiweddaru ei CV a chael cefnogaeth i chwilio am waith - gwasanaeth sydd ar gael i raddedigion am hyd at dair blynedd ar ôl gorffen eu hastudiaethau.  

“Gwnaeth Sian Shepherd, sef Rheolwr Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion Prifysgol Bangor, fy mharu â BIC Innovation gan ddefnyddio'r Taleb Talent trwy'r Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd. Pan ymunais â BIC Innovation, roedd bron popeth yn newydd i mi – ond rwyf wedi gallu cymhwyso fy ngwybodaeth o SQL, Excel, Python a dadansoddeg data i'r project rwy'n gweithio arno gyda Hilary Centeleghe, sef Rheolwr Datblygu Busnes y cwmni. Wrth ddadansoddi’r data, rydym wedi bod yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd datblygu busnes posibl, fel y gall y cwmni ganolbwyntio ei ymdrechion ar y meysydd hynny sy'n cynnig y potensial gorau ar gyfer twf.”

Mae Masi’n pwysleisio bod cynlluniau megis y Talebau Talent o fudd enfawr i raddedigion newydd a chyflogwyr fel ei gilydd,

“Rwy'n meddwl bod cynlluniau fel hyn yn fuddiol iawn – rwy'n hoffi eu galw'n 'fanteision aur'. Mae’r rhai hynny ohonom sydd newydd raddio wir angen cefnogaeth o’r fath er mwyn cymryd y cam i’r farchnad swyddi i raddedigion, oherwydd mae’n faes cystadleuol iawn ac mae cael swydd yn destun pryder, yn enwedig gyda theulu ifanc i’w gefnogi. Mae’n gyfle i ddefnyddio fy egni a rhoi popeth rydw i wedi’i ddysgu ar waith, sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol da. Mae wedi rhoi blas i mi o'r yrfa rydw i ei heisiau.”

Mae'r Talebau Talent (sy'n werth hyd at £5K) yn un o dri math o dalebau sgiliau ac arloesi sydd ar gael drwy'r cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd. Mae’r talebau’n cefnogi busnesau lleol i gael mynediad at arbenigedd, cyfleusterau a sgiliau ym Mhrifysgol Bangor. Ariennir y talebau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, Gogledd Cymru ar ran Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir y Fflint. 

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch e-bost at: SIV@bangor.ac.uk neu cwblhewch y ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?