Bydd y sgwrs gyntaf (13:00-14:00) yn digwydd rhwng Dr Joshua Andrews a Ms Rachel Healand-Sloan wrth iddynt drafod y ffenomen ag yw Heartstopper. Bydd y drafodaeth hon yn archwilio effaith ddiwylliannol y nofel graffig annwyl a’i haddasiad Netflix, gan fyfyrio ar pam mae’r gyfres wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd a’r hyn y mae’n ei ddatgelu am gymdeithas gyfoes.
Yn dilyn hynny (14:00-15:00), bydd Dr. Mari Elin Wiliam a Dr Gareth Evans-Jones yn ystyried y berthynas rymus rhwng llyfrau, anifeiliaid, a moeseg ddynol. Gan ddefnyddio llyfr dylanwadol Melanie Joy, Why We Love Dogs, Eat Pigs, and Wear Cows fel man cychwyn, byddant yn archwilio deinameg athronyddol a seicolegol ein hagweddau at anifeiliaid, sy’n aml yn gwrth-ddweud ei gilydd.
Bydd y sgwrs olaf (15:00-16:00), rhwng Ms Lisa Sparkes a Dr Gareth Evans-Jones, yn cymryd tro tywyllach, gan ymchwilio i seicoleg ac athroniaeth lladdwyr cyfresol. Gyda hynny, byddant yn archwilio'r cwestiwn pryfoclyd, a oes yna lofrudd cyfresol penodol 'wedi mynd yn rhy bell', gan wahodd y gynulleidfa i fyfyrio'n ofalu ynghylch ffiniau moesol ac ymddygiad dynol.
Mae hwn yn argoeli i fod yn brynhawn hynod ddiddorol yn llawn trafodaethau amrywiol a fydd yn procio’r meddwl. Mae croeso i bawb fynychu, p'un a ydych yn athronydd profiadol neu'n chwilfrydig am y pynciau unigryw hyn. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ymgysylltu ag ysgolheigion blaenllaw yng nghanol Caernarfon!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Gareth Evans-Jones os gwelwch yn dda: g.evans-jones@bangor.ac.uk.