Fy ngwlad:

Mae defnyddio cyffuriau hamdden, fel cocên neu alcohol, yn anghyfreithlon neu'n cynnwys cyfyngiadau oedran llym. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn cymryd y cyffuriau hyn, a chyffuriau tebyg iddynt, hyd yn oed os ydynt yn achosi effeithiau negyddol ar eu perthynas â phobl, eu sefyllfa ariannol a'u hiechyd. Bydd y sgwrs hon yn trafod beth sy'n digwydd yn ymennydd rhywun pan fydd yn cymryd cyffuriau hamdden, a pham, o safbwynt biolegol, mae defnyddio'r cyffuriau hyn yn rhoi cymaint o foddhad… Ond, yr union deimlad hwn sy’n gallu arwain at ganlyniadau hynod niweidiol i rai pobl.

Rhybuddion ynghylch y cynnwys: Trwy gydol y sgwrs hon, cyfeirir at gyffuriau hamdden, a gall hyn gynnwys rhai delweddau o gyffuriau a’u hoffer a rhai sylwadau am ddibyniaeth.

Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad. 

Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.

Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg ym Mangor.


 
Siaradwyr

Y'r Athro Caroline Bowman

Professor Caroline Bowman

Yr Athro Caroline Bowman

Athro Seicoleg / Deon Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Fi yw Deon Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, sy'n gartref i Seicoleg, Meddygaeth, Gwyddorau Gofal Iechyd, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer a Gwyddorau Meddygol. Pwyslais strategol fy swydd yn y coleg yw sicrhau bod ein haddysgu yn drawsnewidiol, gydag iechyd a lles da yn ganolog iddo. Yn ogystal â’m dyletswyddau yn y coleg, rwy’n arwain y gwaith o gyflawni Strategaeth Profiad Myfyrwyr y brifysgol, sy’n cymryd agwedd gyfannol at brofiad myfyrwyr, gan gyflawni pum amcan allweddol: Llesiant; Cynwysoldeb; yr Amgylchedd; Cyfleoedd; Cyfathrebu. Rwy’n eiriolwr brwd dros arfer effeithiol a chynhwysol mewn addysgu a dysgu ac arweiniais ar y broses o symud y brifysgol i Fframwaith Safonau Proffesiynol Uwch AU (2023), gan alluogi staff y brifysgol i ddarparu ymarfer sydd ar flaen y gad, yn unol â meincnodau cenedlaethol. Yn ogystal â’m cyfrifoldebau yn y coleg a’r brifysgol, rwy’n darlithio yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, lle rwy’n dysgu seicoleg fiolegol a seicoleg defnyddwyr ar lefel israddedig, ac rwy’n arwain rhaglen hyfforddi athrawon disgyblaeth-benodol achrededig Advance HE i fyfyrwyr doethurol sy’n dysgu ar raglenni’r ysgol.

Archwiliwch y gyfres weminar lawn:

Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg