Y Llechan: Steven Lovatt
Birdsong in a Time of Silence
Sut mae adar yn canu?
Sut ydyn ni'n eu clywed?
Beth mae'n ei olygu i ni pan fyddwn yn gwrando arnynt?
Bydd yr awdur gwadd Steven Lovatt yn cyflwyno darlleniad o'i lyfr Birdsong in a Time of Silence, a ddilynir gan drafodaeth gyda'r awdur Siân Melangell Dafydd a'r biolegydd Dr Kristen Crandell.
Cyflwynir y digwyddiad rhyngddisgyblaethol hwn gan yr Athro Zoë Skoulding yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau efo CAINC ac Y Llechan, gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol Prifysgol Bangor a Llenyddiaeth Cymru.
Mae croeso i bawb yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.