Gwadiad e-bost
Mae'r Brifysgol wedi penderfynu gweithredu gwadiad ebost. Penderfynwyd ar hyn gan y Grwp Tasg Cydsyniad Cyfreithiol. Mae’n orfodol i holl aelodau’r Brifysgol ddefnyddio’r gwadiad.
Bydd rhaid i ddefnyddwyr sy’n defnyddio cleient ebost arwahan i Webmail neu Netscape Mail ddiwygio eu ffeiliau llofnod eu hunain. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn ogystal a mwy o wybodaeth ar y gwadiad yma:-
- Nodyn Cyfarwyddyd - Gwadiad e-bost
- www.bangor.ac.uk/itservices/knowledgebase/faqindex.php#Disclaimer
Ymwadiad e-bost
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i’r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i’r sawl a’i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk