Y Gyfraith a'r Gymraeg
Mae datganoli wedi bod yn digwydd ym Mhrydain ers 1998. Yng Nghymru, sydd â’i senedd ei hun bellach (Llywodraeth Cymru), mae Datganoli wedi arwain at gynnydd enfawr yn y galw am gyfreithwyr dwyieithog, a hynny yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Mewn ymateb i’r galw hwn, mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn cynnig gradd arbenigol LLB yn y Gyfraith gyda'r Gymraeg, wedi’i llunio i feithrin gallu yn y Gymraeg a chynhyrchu cyfreithwyr sy’n hyderus ac yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Addysgu
Ein gradd LLB yn y Gyfraith gyda'r Gymraeg oedd y cyntaf o’i bath yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn cyfuno astudio’r gyfraith gyda modiwlau iaith perthnasol o Ysgol y Gymraeg. Bydd y modiwlau hyn, yn cynnwys sgiliau cyfieithu, yn rhoi'r holl sgiliau cyfreithiol ac ieithyddol y mae ar fyfyrwyr eu hangen mewn proffesiwn cyfreithiol dwyieithog.
Rydym ni hefyd yn cynnig tiwtorialau a gweithdai cyfrwng Cymraeg ymhob modiwl yn y Gyfraith lle mae rhain yn rhan o'r cwricwlwm.
Adnoddau i Fyfyrwyr
Yn ogystal â chynnal diwrnod agored yn benodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg, mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn darparu amrywiaeth o adnoddau Cymraeg i’w myfyrwyr ac i sefydliadau academaidd eraill ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- geiriadur dwyieithog o dermau cyfreithiol, ar gael i bob disgybl ysgol a myfyrwyr prifysgol yng Nghymru am bris rhesymol iawn;
- casgliad cyhoeddedig o’i deunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg yn y Gyfraith, ar gael am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn addysg gyfreithiol cyfrwng Cymraeg;
- DVD i hyrwyddo manteision addysg gyfreithiol cyfrwng Cymraeg i ddarpar-fyfyrwyr, gyda chopïau o’r rhain wedi’u dosbarthu i bob ysgol a choleg Addysg Bellach yng Nghymru. Mae rhagor o gopïau ar gael ar gais, yn rhad ac am ddim.
Mae staff o Ysgol y Gyfraith Bangor yn ymwneud rhagor â darpar-fyfyrwyr drwy ymweld yn rheolaidd ag ysgolion yng Nghymru (a thu hwnt). Maent yn cynnal Cynadleddau’r Gyfraith yn rheolaidd i fyfyrwyr chweched dosbarth.
Llys Ffug Cymraeg
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Chymdeithas y Gyfraith Myfyrwyr Bangor yn cydweithio i gynnal cystadleuaeth llys ffug Cymraeg ei hun yr Ysgol, Cwpan Griffiths.
Mae cymryd rhan mewn llys ffug yn rhoi cyfle i fyfyrwyr efelychu achosion a rhoi eu gwybodaeth ar waith mewn amgylchedd ymarferol. I gyfreithwyr ifanc uchelgeisiol yn arbennig, mae cymryd rhan mewn llys ffug yn rhoi platfform i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau dadansoddi, dehongli a siarad yn gyhoeddus.
Diolch i gefnogaeth barhaus Canolfan Cyfiawnder Troseddol Caernarfon, mae’n fraint i ni gael cynnal y rownd derfynol flynyddol yn ei phrif ystafell yn y llys.
Darllenwch mwy am Gynllun Iaith Prifysgol Bangor.