Newyddion
- Dim Newyddion Cyfredol
- Darllenwch yr holl newyddion
Dysgu Gydol Oes
Bydd yr Ysgol Dysgu Gydol Oes yn cau o 31 Gorffennaf 2017. Er nad ydym yn derbyn myfyrwyr newydd i'r Ysgol Dysgu Gydol Oes, mae'r holl fyfyrwyr presennol wedi cael cynnig cyfle i gwblhau eu hastudiaethau a derbyn cymhwyster o Brifysgol Bangor pan fyddant wedi cwblhau'n llwyddiannus.
Mae Prifysgol Bangor yn edrych ar ffyrdd y gall ehangu darpariaeth ran-amser fel y gellir cynnig dewis ehangach a chliriach mewn pryd ar gyfer mis Medi 2018. Ein bwriad yw cydlynu holl ddarpariaeth ran-amser ar draws y brifysgol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd dysgu rhan-amser gwirionedd hyblyg a chefnogol ar y cyd â chyrsiau llawn-amser a rhaglenni gradd y brifysgol.
Os oes gennych ddiddordeb derbyn gwybodaeth am gyfleoedd dysgu rhan-amser presennol ac i ddod, cysylltwch â dysgu.rhan.amser@bangor.ac.uk a byddwn yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth bellach am y datblygiadau cyffrous hyn.
Celfyddyd Gain
Bydd y brifysgol yn cau ei graddau rhan-amser mewn Celfyddyd Gain o 31 Gorffennaf 2017. Er nad ydym yn derbyn myfyrwyr newydd i'r rhaglen Celfyddyd Gain, mae'r holl fyfyrwyr presennol wedi cael cynnig cyfle NAILL AI i gwblhau eu hastudiaethau a derbyn cymhwyster o Brifysgol Bangor pan fyddant wedi cwblhau'n llwyddiannus NEU adael rhaglen Bangor ac ymuno â darpariaeth Grŵp Llandrillo Menai sydd hefyd yn cynnig gradd mewn Celfyddyd Gain ar ei safle ym Mharc Menai ym Mangor.
Os hoffech astudio am radd ran-amser neu lawn-amser mewn Celfyddyd Gain o fis Medi 2017 ymlaen, cysylltwch â Grŵp Llandrillo Menai ar 01492 542338 neu ewch i www.gllm.ac.uk/degrees i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd Prifysgol Bangor hefyd yn dilysu gradd BA Celfyddyd Gain Grŵp Llandrillo Menai o 2017, a bydd yr holl fyfyrwyr fydd yn dilyn y cwrs hwn yn derbyn cymhwyster Prifysgol Bangor ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus.