Cael hyd i Swydd

Gall dod o hyd i swydd ar lefel graddedigion ymddangos yn dasg frawychus, waeth pryd rydych chi’n dechrau neu beth rydych eisiau ei wneud. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i’ch helpu i chwilio a gwneud cais am y swydd rydych wedi breuddwydio amdani.
Rydym hefyd yn cynnal gweithdy ‘Chwilio am Swyddi’ yn rheolaidd drwy’r flwyddyn academaidd – gweler y cyswllt ‘Gweithdai a Digwyddiadau’ ar y ddewislen ar y chwith i weld yr amserlen.
Mae NextStepSupport yn wefan ddefnyddiol iawn sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr a graddedigion. Mae hyn yn cynnwys llawer o adnoddau'n ymwneud â chwilio am swydd a gwneud cais am swydd.
Cliciwch ar y ddelwedd isod i lawrlwytho Rhowch hwb i'ch gyrfa.

Taflenni
Cliciwch ar y delweddau isod:
Gwefannau Swyddi a Chyfeiriaduron i Raddedigion
- Mae CyswlltGyrfa yn hysbysebu amrywiaeth o swyddi i raddedigion yn genedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â chyfleoedd yn yr ardal leol.
- Glassdoor – cymuned yrfaoedd lle mae cyn weithwyr a gweithwyr presennol wedi cyfrannu dros 6 miliwn o ddarnau o wybodaeth am gyflogau, adolygiadau ar gwmniau a chwestiynau a ofynnir mewn cyfweliadau.
- Jobs.ac.uk – y brif wefan ryngwladol am swyddi mewn meysydd academaidd, ymchwil, gwyddoniaeth a phroffesiynau cysylltiedig.
- Mae Jooble yn helpu pobl i ddod o hyd i swyddi mewn dros 70 o wledydd, ac yn aml mae ganddo dros 600,000 o swyddi gwag yn y Deyrnas Unedig yn unig.
- Milkround – mae Milkround yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion chwilio am swyddi, lleoliadau, rhaglenni ac interniaethau yn ôl adran, diwydiant, cwmni a lleoliad. Rhoddir cyngor ymarferol ar yrfaoedd hefyd.
- Prospects yw gwefan gyrfaoedd graddedigion swyddogol y Deyrnas Unedig ac mae’n hysbysebu cannoedd o swyddi i raddedigion, yn ogystal â phrofiad gwaith ac interniaethau.
- Stellarjobs yw safle swyddi gofod mwyaf cysawd yr haul.
- TargetJobs – safle arall sy’n recriwtio graddedigion. Mae’n hysbysebu cyfleoedd i raddedigion lle gellwch chwilio am wahanol swyddi a chofrestru i gael eich hysbysu am swyddi gwag drwy e-bost.
Mae gwefannau defnyddiol eraill yn cynnwys:
Cyfleoedd lleol
Mae’r cysylltiadau canlynol yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cyfleoedd lleol yn amrywio o swyddi rhan-amser i rai i raddedigion:
- Lleol.cymru – Swyddi ar draws Cymru lle mae angen medru’r Gymraeg
- SuperTemps – asiantaeth recriwtio o Ogledd Orllewin Cymru
Wedi'i ddiweddaru Mehefin 2023