English

CVs a Recriwtio

Ar y dudalen hon mi welwch chi daflenni defnyddiol, enghreifftiau o CV, a chysylltiadau at weithdai ar-lein, a phob un wedi’i gynllunio i’ch helpu chi wneud yn fawr o bopeth pan fyddwch chi’n dechrau ymgeisio am brofiad gwaith, swyddi a/neu astudiaethau ôl-radd.

 

Oes chi angen help arnoch gyda'ch CV?

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, mae gennych fynediad unigryw i CareerSet, sy'n rhoi adborth ar unwaith ar eich CV.

 

CVs

Esiamplau o CVs

 

Rydym yn cynnal gweminarau rheolaidd am y pwnc yma – cliciwch ar Digwyddiadau i ddarganfod mwy ac archebu lle.

Ffurflenni Cais

Dyma weithdy ar-lein sy’n cynnig canllaw cam wrth gam ar gyfer gwneud cais da am swydd. (Cyfeiriadau at dasgau / llyfr gwaith ar gael i fyfyrwyr cyfredol yn unig.)

Cyfweliadau a Chanolfannau Asesu

Waeth bynnag y swydd rydych chi’n gwneud cais amdani neu’r sector rydych chi am weithio ynddo, mae’n debygol iawn y gofynnir i chi gwblhau nifer o asesiadau proffilio a phrofion cymhwysedd, naill ai fel gofyniad safonol cais, neu os ydych chi’n cael eich ystyried am gyfweliad.

Fel myfyriwr graddedig ym Mhrifysgol Bangor mae gennych fynediad i gyfrif Graduates First unigryw, lle mae gennych fynediad llawn i ystod eang o asesiadau, profion a gemau y talwyd amdanynt ymlaen llaw gan y Brifysgol, ac y mae cyflogwyr graddedigion yn eu defnyddio.

Byddwch chi’n gallu gweld sut rydych chi’n perfformio yn erbyn meincnodau cyflogwyr, a gwella’ch dealltwriaeth a’ch sgorau – gallwch chi hefyd ymarfer cwestiynau cyfweliad a chael adborth ar eich perfformiad.

 

Mewngofnodwch gyda’r enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fel myfyriwr i roi cychwyn arni! https://www.graduatesfirst.com/university-career-services/bangor/

Taflenni

Y Gweithdy

Mae’r gweithdy hwn yn cynnig canllaw cam wrth gam ar gyfer deall y broses gyfweld, sut a beth i’w baratoi, ac ateb cwestiynau mewn cyfweliad.


Wedi'i ddiweddaru Mehefin 2023