English

Gweithio ar eich Liwt eich Hun a Sefydlu Busnes

Mae B-Fentrus yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion o Brifysgol Bangor i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau menter neu eu cefnogi i ddechrau busnes newydd.

Mae datblygu eich sgiliau menter yn bwysig, nid yn unig i'r rhai sydd am fod yn hunangyflogedig, ond hefyd i'r rhai sydd mewn cyflogaeth - gan eu helpu i ddatblygu'r hyder 'gallaf-wneud', cwestiynu creadigol a pharodrwydd i fentro. Mae'r nodweddion hyn yn cael eu cydnabod fwyfwy gan gyflogwyr wrth iddynt fod yn barod ar gyfer economi sy'n newid yn gyflym ac i alluogi unigolion i reoli ansicrwydd yn y gweithle a phatrymau gwaith a gyrfaoedd hyblyg.

Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth Asiantaeth Sicrhau Ansawdd 2018

Cliciwch ar y delweddau isod i gael gwybodaeth am ein cefnogaeth menter.\

I'r rhai sydd â diddordeb mewn Dechrau Busnes

Rydym yn cydweithio â nifer o wahanol bartneriaid i roi cefnogaeth dechrau busnes i raddedigion entrepreneuraidd.

Mae ein darpariaeth yn newid yn rheolaidd felly cysylltwch â ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â gweithgareddau a chyllid.

Mentora busnes un i un

Mae apwyntiadau mentora busnes i un ar gael i raddedigion trwy Syniadau Mawr Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r apwyntiadau yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol ac ar hyn o bryd fe'u darperir trwy lwyfannau rhithiol fel Zoom neu Teams. Os oes gennych syniad ar gyfer dechrau eich busnes eich hun neu fenter gymdeithasol neu os oes angen cymorth arnoch i ddatblygu busnes rydych wedi ei ddechrau'n ddiweddar, cysylltwch â B-Fentrus i drefnu apwyntiad.

Dywedodd 100% o'r ymatebwyr mewn adborth am y cynllun mentora busnes un i un bod y mentor wedi helpu i ddatblygu eu hyder a datblygu eu syniadau.

Gweithdai

Gall graddedigion hefyd gael mynediad at weithdai, rhai a gynhelir yn fewnol, yn benodol i ddechrau busnes neu sgiliau menter cyffredinol a gweithdai a ddarperir gan M-SParc, yr Hwb Menter ac eraill.

Cliciwch i gael manylion am weithgareddau a gynhelir gan M-Sparc a’r Hwb Menter.

Cyllid a Man Deori

Mae cyllid a man deori hefyd yn rhan o'n darpariaeth trwy SEA - Santander Enterprise Accelerator, a noddir yn garedig gan Brifysgolion Santander. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Gweithio ar eich liwt eich hun ac Ymgynghoriaeth

Mae Prifysgol Bangor yn brifysgol partner i'r IPSE. Yr IPSE yw'r 'Association of Independent professionals and the Self-Employed'. Gall pob un o'n myfyrwyr a'n graddedigion diweddar dderbyn aelodaeth myfyrwyr am ddim o'r IPSE ac mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfoeth o adnoddau sydd ar gael trwy eu gwefan. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb.

Hyrwyddo a Rhwydweithiau

Os ydych wedi graddio o Brifysgol Bangor ac eisoes wedi dechrau eich busnes eich hun yna rhowch wybod i ni gan y byddem yn croesawu'r cyfle i'ch hyrwyddo chi a'ch busnes a'ch cysylltu â'n rhwydweithiau.

Syniadau Mawr Cymru

Mae gan Syniadau Mawr Cymru nifer fawr o wybodaeth a chefnogaeth i raddedigion dan 26 oed sydd â diddordeb mewn dechrau busnes. Ewch i Syniadau Mawr Cymru i weld gwybodaeth ddefnyddiol, straeon sy'n ysbrydoli. A chysylltiadau â'r Hyrwyddwyr Menter ym mhob un o'r sefydliadau.

Mae cysylltiadau defnyddiol eraill yn cynnwys:

Cysylltwch â ni

Byddem yn falch iawn o glywed gennych!

Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’n gwasanaethau, yn cynnwys mentora busnes, gweithdai a chystadlaethau, anfonwch

e-bost at b-fentrus@bangor.ac.uk

 

Caiff Byddwch Fentrus ei gyllido'n rhannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.

 

Wedi'i ddiweddaru Mehefin 2023