Ein Lleoliad
Darganfyddwch brifysgol mewn amgylchedd anhygoel.
Beth sydd i'w wneud ym Mangor ac yn yr ardal gyfagos?
Ym Mangor
Yng nghanol Bangor fe welwch ystod eang o archfarchnadoedd, siopau bwyd, siopau cadwyn, caffis, thafarndai a bwytai. Mae ein neuaddau preswyl a'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu llawer o’r ffocws ar gyfer gweithgareddau ac adloniant, ac mae ymaelodaeth o phob un o’n clybiau a’n cymdeithasau am ddim.
Canolfan Chwaraeon
Canolfan Brailsford yw prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol. Wedi ei lleoli ym Mhentref Ffriddoedd, mae'n cynnwys campfa ddeulawr, campfa berfformio, offer ffitrwydd o'r radd flaenaf, neuaddau chwaraeon, wal ddringo, cyrtiau sboncen a dôm chwaraeon sy'n gartref i gyrtiau pêl-rwyd a thenis dan do.
Canolfan Pontio
Mae canolfan Pontio yn ganolbwynt cymdeithasol yn ogystal â chanolfan ddysgu, arloesi a'r celfyddydau. Yma mae Undeb Myfyrwyr ac mae hefyd yn cynnwys sinema, theatr, darlithfeydd, mannau arddangos, bar a chaffi.
Dau bentref llety - Ffriddoedd a Santes Fair
Mae mwyafrif ein llety wedi'i leoli mewn dau bentref myfyrwyr, Ffriddoedd a Santes Fair, sydd o fewn pellter cerdded i brif adeiladau'r Brifysgol, canol y ddinas a'r orsaf dren.
Mae'r rhan fwyaf o'n llety yn en-suite ac mae cyfleusterau megis siop, bar/caffi, golchfeydd ac ystafelloedd cyffredin ar y safle. Mae holl fyfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau preswyl yn cael aelodaeth o'r gampfa a chynllyn Campws Byw o fewn y pris.
O amgylch Bangor
Mae lleoliad Bangor yn wych ar gyfer rhai sy'n hoffi bod allan yn yr awyr agored, ac mae llu o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau antur awyr agored. Ond, mae digon i'w wneud yma hefyd i'r rhai ohonoch sy'n mwynhau cwrdd â ffrindiau, crwydro, mynd am dro ag archwilio'r ardal leol.
Gallwch ymweld â threfi cyfagos cyfagos fel Biwmares, Caernarfon a Conwy, sydd â chestyll trawiadol, neu mae Betws y Coed a Llanberis yn drefi hynod o ddeiniadol.
Ynys Môn
Ynys Môn yw un o'r llefydd mwyaf poblogaidd yng Ngogledd Cymru. Pan fydd yr haul yn tywynnu, dewch â'ch ffrindiau ynghyd ac ewch i'r traeth neu i gerdded ar hyd y llwybr arfordirol.
Mae tref Porthaethwy, lle mae ein hysgol Gwyddorau Eigion wedi'i lleoli, tua 20 munud o daith cerdded o Fangor Uchaf. Mae gan Porthaethwy nifer o gaffis, bwyty a bariau ac mae llawer o siopau anibynnol yma.
Gallwch deithio'n hawdd o borthladd Caergybi'n Ynys Môn drosodd i Ddulun yn Iwerddon ac mae llongau fferi rheolaidd yn rhedeg, gyda'r daith yn cymryd tua dwy awr. Gallwch deithio i Gaergybi ar drên uniongyrchol o Fangor.
Eryri
Mae'r milltiroedd o fynyddoedd, llynnoedd ac afonydd Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig digon o gyfleoedd i chi fwynhau'r awyr agored.
Mae cerdded, dringo, caiacio a chanŵio yn ddim ond rhai o'r chwaraeon y gellir eu mwynhau yn yr ardal, sydd hefyd yn gartref i forlyn syrffio Snowdonia Adventure, gwifrau sip hiraf a chyflymaf Ewrop yn Zip World Velocity a Zip World Titan, a Bounce Below, ogof o drampolinau tanddaearol!
Mae llawer o glybiau chwaraeon y Brifysgol yn trefnu teithiau rheolaidd i Eryri.
Antur Newydd o'ch Blaen
Beth am wnued y mwyaf o'r cyfoeth o gyfleoedd ar garreg eich drws wrth astudio ym Mangor? Mae rhai o'r gweithgareddau yn yr ardal yn cynnwys syrffio, profi'r llinell sip hiraf yn Ewrop yn Zip World a bownsio ar drampolinau tanddaearol anferth yn Bounce Below!
P'un a ydych chi mewn i chwaraeon awyr agored neu yn hoffi bod mewn amgylchedd hardd, mae rhywbeth at ddant pawb.