Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich potensial o ran gyrfa yn ystod eich cwrs ac ar ôl graddio. Boed yn archwilio eich opsiynau gyrfa, yn chwilio am brofiad gwaith, dod o hyd i swydd i raddedigion, neu sefydlu eich busnes eich hun, rydym yma i'ch helpu i ddatblygu eich cyflogadwyedd a gwireddu eich uchelgeisiau gyrfa.
Darganfyddwch sut y gallwn eich cefnogi tra byddwch yn astudio yma a hefyd beth i'w ddisgwyl os ydych yn ystyried astudio yma.
Mewn partneriaeth â rhaglen Menter trwy Ddylunio y Brifysgol, mae BUILT yn gystadleuaeth flynyddol sy’n agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor lle mae cyfranogwyr ar draws yr holl ddisgyblaethau astudio a phob blwyddyn academaidd yn ffurfio timau o 5-10 i efelychu cwmni newydd ac i gynhyrchu syniadau a datblygu atebion ar gyfer her gymunedol benodol. Daw’r rhaglen i ben gyda’r timau’n cyflwyno eu syniadau i banel annibynnol, sy’n barnu pa dîm sydd wedi datblygu’r ateb mwyaf arloesol. Mae’r tîm buddugol yn derbyn cyllid a chefnogaeth i lansio a gweithredu eu cynnyrch neu wasanaeth, yn ogystal â mentoriaeth barhaus ac arweiniad gan arbenigwyr.
Mae mentoriaid sy’n gyn-fyfyrwyr yn cefnogi pob tîm ar hyd y ffordd i fireinio eu syniadau a’u hatebion, ac o bosib datblygu prototeip o’r cynnyrch neu wasanaeth. Mae sesiynau dysgu ar gyfer pob tîm yn cael eu hwyluso gan y Brifysgol drwy’r rhaglen Menter trwy Ddylunio – cyfres ddeg wythnos o weithdai sy’n canolbwyntio ar ysbrydoliaeth, creadigrwydd, cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth fasnachol – mewn meysydd fel sut i ddatblygu cynllun busnes a hanfodion cynllunio ariannol.
Mae BUILT yn ffordd wych o wella profiadau CV cyfranogwyr a chymwysterau cyflogadwyedd, gan fodloni gofynion y farchnad swyddi am feddwl arloesol a meddylfryd entrepreneuraidd. Trwy BUILT a Menter trwy Ddylunio, mae myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys gweithio mewn tîm, datrys problemau creadigol, cyfathrebu a sgiliau masnachol. Mae gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu gallu i weithio gyda phobl o gefndiroedd a safbwyntiau gwahanol ac mae elfen arddangos a chyflwyno olaf yr her yn helpu i ddatblygu sgiliau siarad cyhoeddus a chyflwyno, sy’n werthfawr mewn llawer o yrfaoedd.
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i gyd-fynd â'ch gradd, a byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y cyfnod gan aelod o staff o'ch Ysgol academaidd a Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Mae myfyrwyr blaenorol a phresennol wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o ddarparwyr lleoliadau, yn amrywio o gwmnïau preifat i sefydliadau addysgol, elusennau, awdurdodau'r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol. Mae myfyrwyr wedi cael profiad gwaith gyda chwmniau fel Santander, Siemens Healthineers, Coutts , Venue Cymru, WRU, BBC Cymru, Zip World a Gen2.
Mae ein myfyrwyr sydd wedi ymgymryd â blwyddyn leoliad wedi tynnu sylw at sut mae'r profiad wedi eu helpu i ddatblygu rhwydweithiau amhrisiadwy, hyder a phrofiad bywyd ynghyd â gwybodaeth a sgiliau pwnc sydd wedi rhoi hwb i'w cyflogadwyedd.
Sylwch: Y ffi ar gyfer yr holl leoliadau a blynyddoedd rhyngwladol yw £1,350 (mynediad yn 2024).
CyswlltGyrfa ydy biwro cyflogaeth myfyrwyr y Brifysgol. Mae'n cynnig y cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i raddedigion - Lleol, Cenedlaethol a Rhyngwladol
- Gwaith llawn a rhan-amser, parhaol a dros dro
- Lleoliadau gwaith ac interniaethau
- Cyfleoedd lleoliad
- Cyfleoedd gwirfoddol
Gall myfyrwyr (a Graddedigion hyd at dair blynedd) hefyd ddefnyddio’r platfform i drefnu apwyntiadau gyrfaoedd a busnesau newydd, archebu lleoedd ar ein gweminarau a’n gweithdai, cwblhau gweithgareddau gwybodaeth, a llawer mwy.
I weld y cyfleoedd yma ar CyswlltGyrfa mae angen i chi fewngofnodi gyda’ch cyfrif myfyriwr.