Pam mynd dramor?
Mae treulio amser mewn gwlad arall yn gyfle i:
- wella eich siawns o gael swydd
- ddatblygu sgiliau hanfodol newydd drwy ddysgu o brofiad
- greu rhwydwaith o gysylltiadau rhyngwladol a all fod o ddefnydd i'ch gyrfa
- ddod yn fwy hyderus, agored a hyblyg
- ddysgu iaith arall neu ddarganfod pwnc newydd
- gael profiad a dealltwriaeth o ddiwylliant arall
- gael persbectif byd-eang ar eich pwnc
- ddod yn ôl i Fangor yn fwy hunangynhaliol ac annibynnol
- wneud ffrindiau fydd yn para am oes
- gael hwyl a theithio i leoedd anhygoel
Ble allai Bangor fynd â chi?
Mae eich opsiynau'n dibynnu ar eich rhaglen gradd. Fel arfer gall myfyrwyr is-radd fynd dramor am flwyddyn gyfan, cyfnod byr dros yr haf neu, mewn achosion prin, semester yn unig. Cliciwch ar Dewisiadau Astudio/Gweithio Dramor i gael mwy o wybodaeth am eich cyfleoedd i astudio neu weithio dramor.
Dylech hefyd ddod at un o'r sesiynau wybodaeth am ein cyfleoedd astudio neu weithio dramor, lle byddwn yn rhestru eich opsiynau a'n sôn am gyrchfannau, cyllid a'r broses ymgeisio. Cewch hefyd y cyfle i ofyn cwestiynau i'r Cydlynydd Cyfnewidiadau Rhyngwladol. Mae croeso i bob myfyriwr ddod, ond nodwch fod y rhan fwyaf o'n rhaglenni ar gael i fyfyrwyr is-radd yn unig am y tro.