Yn ogystal â chael ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru, gosodwyd y Brifysgol yn y 50 uchaf o blith prifysgolion Prydain ac yn drydydd yng Nghymru, llamodd y Brifysgol 28 lle i gyrraedd safle 54 yn y Guardian University Guide 2024 sydd newydd ei gyhoeddi.
Mae ganmoliaeth y Daily Mail yn sôn am sefydlu’r ysgol feddygol newydd fel un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y brifysgol.
Wrth groesawu’r newyddion dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor y Brifysgol,
Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu ein huchelgais i ddarparu addysg o safon sy’n arwain y byd, wedi’i hysbrydoli gan ymchwil i’n myfyrwyr, ac i’w harfogi â’r profiadau angenrheidiol i raddedigion fel y gallant wneud cyfraniad gwerthfawr yn y gyrfaoedd y dewisant eu dilyn.
Bydd hon yn flwyddyn arwyddocaol yn hanes Prifysgol Bangor. Bydd agor yr ysgol feddygol newydd yn ddatblygiad chwyldroadol, gyda’r myfyrwyr meddygaeth cyntaf yn cael eu derbyn fis Medi nesaf.”
“Mae’r fenter yn nodweddiadol o brifysgol sydd a’i gwreiddiau’n ddwfn yn ei chymuned, gan mai pennaf orchwyl yr Ysgol Feddygol fydd mynd i’r afael â’r prinder difrifol o feddygon teulu yng ngogledd Cymru.
“Mae sawl cwrs arall yn y sefydliad hefyd yn cyfrannu at anghenion y rhanbarth, gyda gwyddorau’r môr a chadwraeth yn feysydd o bwys byd-eang ac ymysg arbenigeddau Prifysgol Bangor. Mae bod yn 15fed trwy’r Deyrnas Unedig am ei llwyddiant wrth ddenu incwm ymchwil yn tystio i ansawdd a pherthnasedd gwaith ymchwil y brifysgol.
Mae safle o fewn y 50 uchaf a bod yn drydydd ymhlith prifysgolion Cymru, ynghyd â phwysigrwydd strategol yr ysgol feddygol newydd yn gwneud Prifysgol Bangor yn enillydd clir yng Ngwobrau Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru’r Daily Mail.