Mae myfyrwyr Troseddeg, swyddogion heddlu dan hyfforddiant ac unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol yn cael cipolwg gwerthfawr ar natur lechwraidd ‘rheolaeth drwy orfodaeth’ (coercive control) mewn sesiwn hyfforddi ymdrochol sy’n defnyddio clustffonau rhith-realiti ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ystod y sesiwn, rhoddir cyfranogwyr yn uniongyrchol yn esgidiau dioddefwyr rheolaeth orfodol. Trwy wisgo clustffonau VR, maent yn mynd i mewn i nifer o senarios sy’n dangos arwyddion mwy cynnil o reolaeth orfodol, ond yn bwysicach fyth, maen nhw’n teimlo sut brofiad yw sefyllfaoedd lle mae ymddygiad o ‘lovebombing’ ‘gaslighting’ a ‘stonewalling’ yn rhan o fywyd bob dydd. Mae myfyrwyr yn ymweld â realiti VR dros dro lle mae’r cyflawnwyr yn rheoli cyllid, ffonau symudol a meddyginiaethau , gan reoli beth mae eu dioddefwyr yn ei wisgo a phwy maen nhw'n ei weld neu beth maen nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd. Mae'r holl fyfyrwyr yn cael eu sgrinio'n drylwyr cyn y profiad i wneud yn siŵr eu bod wedi'u paratoi'n gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer yr hyn y byddant yn ei brofi.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cofnodwyd 43,774 o droseddau rheolaeth orfodol gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio Dyfnaint a Chernyw) yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. Mae hyn o'i gymharu â 41,039 yn y flwyddyn flaenorol, er y gellir priodoli peth o’r cynnydd mewn troseddau rheolaeth orfodol dros y blynyddoedd diwethaf i welliannau a wnaed gan yr heddlu o ran adnabod digwyddiadau o reolaeth orfodol a defnyddio'r gyfraith newydd yn unol â hynny.
Dywedodd Dr Tim Holmes, arweinydd pwnc Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol Bangor,
“Rydym yn falch o fod yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr troseddeg brofi’r math newydd hwn o hyfforddiant ac rydym yn ei integreiddio i’n rhaglenni gradd plismona ar gyfer cwnstabliaid heddlu newydd sy’n ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ar gais gan arweinydd trais yn erbyn menywod a phlant Heddlu Gogledd Cymru.”
“Mae’n dangos ein hymrwymiad i ymateb i’r angen i wella ymwybyddiaeth swyddogion heddlu newydd o reolaeth drwy orfodaeth, a sut y gall gyflwyno ei hun mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn rhywbeth y mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i ddatblygu rhagor o ymwybyddiaeth ohono, a thrwy’r radd mae gennym gyfle i gyrraedd llawer o swyddogion heddlu newydd yn ogystal â myfyrwyr troseddeg a’r sector gwasanaethau cymdeithasol ehangach gyda’r hyfforddiant yma.”
Cael yr effaith fwyaf
Dywedodd Jude Traharne, Rheolwr Gyfarwyddwr Mother Mountain Productions, sy’n hwyluso’r sesiynau hyfforddi fel sefydliad budd cymunedol sydd â’r nod o roi llais i bobl agored i niwed,
“Mae’n gyffrous iawn bod yma gyda Phrifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu’r hyfforddiant hwn - sy’n cyrraedd unigolion ar ddechrau eu gyrfa pan maent dal i hyfforddi a phan allwn gael yr effaith fwyaf.
“Nid PowerPoint a chyflwyniadau bob amser yw’r ffyrdd mwyaf ysbrydoledig o hyfforddi, yn enwedig mewn pwnc sydd mor sensitif ac emosiynol â hwn. Ein ‘USP’ mewn gwirionedd yw ceisio rhoi un unigolyn yn esgidiau'r llall, yn yr achos hwn cam-drin domestig a rheolaeth orfodol o fewn hynny. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau a dioddefwyr-goroeswyr i sicrhau ein bod yn dweud eu stori yn y ffordd fwyaf dilys bosibl, ac i leisio eu barn, er yn ddienw. Yna byddwn yn ffilmio'r senarios hyn gyda chamera 360-gradd sy'n rhoi fideo rhith-realiti i ni ac yn defnyddio hwnnw i drochi'r unigolion yn yr hyfforddiant. Drwy’r adborth a data a gasglwn, rydym yn gwybod ei fod yn cael effaith gwirioneddol o ran newid ymddygiad ac mae’r math hwn o hyfforddiant yn aros gyda’r unigolion sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant ac yn llywio’r ffordd y maent yn trin dioddefwyr trais domestig a’r cwestiynau y maent yn eu gofyn wrth symud ymlaen.”
Trosedd real iawn y mae angen inni ei deall a cheisio ei hatal bob dydd
Ychwanegodd Claire McGrady, Arolygydd yn Heddlu Gogledd Cymru ac arweinydd trais yn erbyn menywod a merched,
“Yr hyn sy’n gyffrous iawn am yr hyfforddiant rhith-realiti yma, sydd yn cael ei wneud am y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru, yw ei fod yn caniatáu i’n swyddogion dan hyfforddiant ddysgu mwy am ymddygiad rheoli gorfodol a’u bod yn mynd â hwnnw’n ôl i’r gweithle ac yn ei ddefnyddio pan fyddant yn wynebu achosion tebyg. Mae’r ystadegau ar gyfer y math hwn o gam-drin emosiynol yng Nghymru a Lloegr yn y degau o filoedd, felly mae hon yn drosedd real iawn y mae angen inni ei deall a cheisio ei hatal bob dydd. Mae’r hyfforddiant yma’n gyfraniad mawr tuag at hynny.”
Ffordd hynod ddiddorol o ddysgu
Wrth adlewyrchu ar yr hyfforddiant, dywedodd Jasmine, myfyriwr Troseddeg ym Mhrifysgol Bangor, “Rwy’n meddwl ei fod o’n ffordd hynod ddiddorol o ddysgu. Mae'n ddifyr gweld y modiwlau wedi'u rhannu yn y sefyllfaoedd VR hefyd. O'i weld o fewn sefyllfa VR, rydych chi'n cael mwy o brofiad uniongyrchol. Mae’n ffordd wych o ddysgu.”