Delwedd agos o lyfrau yn y llyfrgell gydag effaith ddisglair hudolus

Barn ein myfyrwyr

Andreea Diveica

Andreea Diveica
Yn Astudio: Cymdeithaseg 
O: Rwmania

“Mae'r cwrs rwyf yn ei ddilyn wedi ei leoli yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, sy'n golygu bod cyfle i ddewis o blith mwy o amrywiaeth o fodiwlau dewisol a chyfle o’r herwydd i ddysgu am feysydd sy'n gysylltiedig â Chymdeithaseg. Oherwydd hynny, mae’r gweithdai a’r seminarau’n dwyn myfyrwyr ynghyd o gefndiroedd a diddordebau gwahanol iawn, sy'n arwain at drafodaethau a dadleuon craff a gafaelgar.

"Po fwyaf dwi’n crwydro’r ardal, y mwyaf dwi’n caru Bangor a'r cyffiniau. Yn ogystal â’r mannau hyfryd a’r rheini weithiau’n gudd a’r golygfeydd anhygoel o Fangor ei hun, mae pa mor agos ydym at Barc Cenedlaethol Eryri a'r trefi a'r pentrefi bach diddorol eraill yn cynnig cyfleoedd lu i grwydro.”

Mae’r gweithdai a’r seminarau’n dwyn myfyrwyr ynghyd o gefndiroedd a diddordebau gwahanol iawn, sy'n arwain at drafodaethau a dadleuon craff a gafaelgar.

Andreea Diveica

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?