Fferm wynt alltraeth yng Ngogledd Cymru

Cynaliadwyedd ym Mangor

Rydym yn un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd o ran cynaliadwyedd.

16eg

yn y DU

yn Sgór Effaith y Times Higher Education a aseswyd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, 2023

64ain

yn y byd

yn Sgór Effaith y Times Higher Education a aseswyd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, 2023

18fed

yn y DU

Cynghrair Prifysgol People & Planet, 2023/24

20fed

yn y byd

Cynghrair Effaith Addysg Uwch y Times, 2023: treuliant a chynhyrchu cyfrifol

Logo 25 erbyn 25 ar gefndir pinc

EIN DYFODOL CYNALIADWY 25 erbyn 25

Fel rhan o Strategaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, mae’r Brifysgol, mewn partneriaeth ag Undeb Bangor ac UMCB, wedi gosod targed iddi’i hun i leihau ei hallyriadau carbon yn sylweddol erbyn y flwyddyn 2025. 

Mae cynaliadwyedd yn greiddiol i’r sefydliad, boed hynny’n diogelu’r amgylchedd, adfywio iechyd cymdeithas neu hyrwyddo ffyniant economaidd, cymdeithasol, dwyieithog a diwylliannol. 

Yr Athro Edmund Burke,  Is-Ganghellor

Dim ond peth o'n heffaith hyd yma...

Amcangyfrifir bod 30-40% o ffrwythau a llysiau Uganda yn cael eu gwastraffu cyn cyrraedd y farchnad. Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Makerere yn Uganda i ddatblygu dulliau amgen o becynnu bwyd yn gynaliadwy.    

Project bwyd o dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Bangor yw’r Ddraig Lwglyd, ac mae’n arbed bwyd sydd dros ben ym Mangor. Yn ddiweddar, mewn partneriaeth â Chaffi Pris Teg Bangor, maent yn troi ffrwythau a llysiau dros ben o archfarchnadoedd lleol yn gyffeithiau ac yn brydau bwyd. 

Mae grŵp rhyngwlad o ymchwilwyr o dan arweiniad Bangor wedi datblygu Cyfres o Asesiadau Amlieithog o Lythrennedd Cynnar (MABEL) - yr adnodd cyntaf sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar y we, sy'n cynnig cyfres o brofion asesu mewn pum iaith. Cyn y project hwnnw, nid oedd gan y prif fuddiolwyr mewn 22 o wledydd werthusiadau gwrthrychol o ansawdd uchel ar sail tystiolaeth er mwyn canfod diffygion llythrennedd yn gynnar mewn plant.

Bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd at broject Ewropeaidd newydd i wella galluoedd gofodol plant, gyda'r nod o helpu cau'r bwlch rhwng y rhywiau ym maes gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a mathemateg (STEM). 

Mae modiwl Hil a Rhyw yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau yn canolbwyntio ar y rôl y mae rhyw, rhywedd, ethnigrwydd a hil yn ei chwarae o ran creu, derbyn a ffurfiant damcaniaethol gwahanol fathau o ffilm a diwylliant gweledol. 

Mae'r Brifysgol yn gosod targedau iddi'i hun i ddefnyddio llai o ddŵr fel rhan o’i System Rheoli Amgylcheddol. Rhwng 2005 a 2020, gostyngwyd defnydd dŵr gan 42.9% fesul m2 o arwynebedd llawr.  

Anghenraid yw cynhyrchion mislif nid moethusrwydd. Mae’r cynllun Tlodi Mislif dan arweiniad myfyrwyr yn cynnig cynhyrchion mislif am ddim i fyfyrwyr.  

Fel Prifysgol, rydym yn deall bod ein defnydd o ynni sy'n deillio o danwydd ffosil yn cyfrannu at newid hinsawdd byd-eang. Yn 2019, gwnaethom ddatgan Argyfwng yr Hinsawdd a chyhoeddi bod 100% o'n trydan bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.

Mae gennym arbenigedd mewn ynni adnewyddadwy morol (gan gynnwys lliniaru'r effeithiau ar fywyd gwyllt y môr) ac ynni niwclear, sy'n hanfodol i barhau i ddatgarboneiddio’r modd yr ydym yn cynhyrchu trydan, ac sy'n sail i ostwng allyriadau mewn sectorau eraill.  Mae Gogledd Cymru yn lle da yn ddaearyddol i arwain ar dechnolegau amgylcheddol.  

Cipiodd entrepreneur o Brifysgol Bangor Wobr y Beirniaid yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Newydd 2020 Prifysgolion Santander, o blith dros 80 o gystadleuwyr.  

Datblygodd myfyrwraig MSc o’r enw Jan Lloyd 'Henry's Cushion', sef teclyn cymorth addysgol dieiriau, a ddeilliodd o sgwrs rhwng Jan a'i mab awtistig, Henry a gyda chefnogaeth wych tîm Byddwch Fentrus y Brifysgol, Yr Ysgol Seicoleg, Syniadau Mawr Cymru, M-SParc a'r Hwb Menter.

Mae ymchwilwyr Bangor yn gweithio’n ddyfal gyda phartneriaid ym myd diwydiant i leihau allyriadau mewn amryw o sectorau. Mae gennym Ganolfan BioGyfansoddion sy’n datblygu deunyddiau gwyrdd i leihau’r effaith amgylcheddol a chloi carbon, er mwyn gwneud y sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu yn fwy gwyrdd a helpu i ddisodli concrit a dur. Rydym hefyd yn gweithio i leihau ôl troed carbon telathrebu.

Yn 2019/20 llwyddodd y Brifysgol i beidio ag anfon 100% o'i gwastraff i safleoedd tirlenwi.  O'r gwastraff na chafodd ei anfon i safleoedd tirlenwi cafodd 2% ei ailddefnyddio, cafodd 59% ei ailgylchu ac adferwyd 39%.

Cynhyrchwyd 617T o wastraff, gostyngiad o 196T (24%) ar y flwyddyn flaenorol. Ein nod yw ailddefnyddio/ailgylchu 70% o'n gwastraff erbyn Gorffennaf 2025, fel y nodir yn strategaeth wastraff gyffredinol Cymru - Tuag at Ddyfodol Di-wastraff.

Mae’r Brifysgol yn deall bod ein defnydd o ynni sy'n deillio o danwydd ffosil yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang. Yn 2020 cymeradwywyd targed i gyrraedd carbon net-sero erbyn 2030. Rydym bellach wrthi’n datblygu cynllun gweithredu er mwyn cyflawni'r fath darged uchelgeisiol.  

Sun breaking through oak leaves in high branches

17 Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

1: Dim Tlodi  
2: Dim Newyn  
3: Iechyd Da a Llesiant   
4: Addysg Dda  
5: Cydraddoldeb Rhywiol  
6: Dŵr Glân a Glanweithdra  
7: Ynni Fforddiadwy a Glân  
8: Gwaith Da a Thwf Economaidd  
9: Diwydiant, Arloesedd a Seilwaith  
10: Lleihau Anghydraddoldeb  
11: Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy  
12: Treuliant a Chynhyrchu Cyfrifol  
13: Gweithredu ar yr Hinsawdd  
14: Bywyd o dan y Dŵr  
15: Bywyd ar y Tir  
16: Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf  
17: Partneriaethau i gyflawni'r Nod 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?