Diwrnod S'Mae!
Ar 15 Hydref, mae Prifysgol Bangor yn hyrwyddo Diwrnod Shwmae S’mae! ar draws y campws. Nod y diwrnod ydy annog pawb i gyfarch ei gilydd yn Gymraeg a "dod â’r Gymraeg yn fyw".
Gyda help y clipiau sain ar y dudalen hon, beth am i chi annog pawb i ddweud S'mae? Bydd 10% o ddisgownt yn cael ei gynnig ar baned o de neu goffi yn holl fannau arlwyo'r Brifysgol os byddwch yn defnyddio’r Gymraeg.
Mae Diwrnod Shwmae S'mae yn rhan o ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg. Pa le gwell i ddechrau na gyda’r ffordd yr ydan ni’n cyfarch ein gilydd? Bydd yn gyfle hefyd i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi'n dysgu Cymraeg yn y Brifysgol a ledled Cymru.
Cyfarchion ac Ymadroddion | Greetings and Phrases | |
---|---|---|
S'mae? | How are you? (North) | |
Shwmae? | How are you? (South) | |
Sut ‘dach chi? | How are you? | |
Helo, sut ‘dach chi heddiw? | Hello, how are you today? (North) | |
Helo, shwd ych chi? | Hello, how are you? (South) | |
Iawn? Pa hwyl? | Alright, what’s up? | |
Ga’ i goffi os gwelwch yn dda? | Can I have a coffee please? | |
Ga’ i baned o de plîs? | Can I have a cup of tea please? | |
Efo siwgr | With sugar | |
Efo llefrith | With milk | |
Ga’ i baned o de herbal? | Can I have a herbal tea? | |
Faint mae’n gostio? | How much does it cost? | |
Diolch | Thank you |