Osian Huw Williams yn ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Myfyriwr Prifysgol Bangor, Osian Huw Williams yw enillydd Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn nos Fercher.
Yn gerddor amryddawn ac adnabyddus, mae Osian yn astudio gradd Meistr mewn cyfansoddi yn yr Ysgol Cerddoriaeth ar hyn o bryd, a gellid dadlau bod cerddoriaeth a chyfansoddi yn ei waed. Mae’n adnabyddus i genhedlaeth ifanc o Gymry fel prif leisydd y band Candelas, y band a fydd yn cloi Maes B nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod eleni.
Yn wreiddiol o Lanuwchllyn ac yn fab i Derec Williams, un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, dysgodd Osian y gitâr a’r drymiau’n gynnar iawn. Fe’i magwyd yn swn a phrysurdeb ymarferion y cwmni theatr, a chafodd hyn ddylanwad mawr arno drwy’r blynyddoedd.
Dywed ei fod yn amhosibl iddo ddychmygu’i fywyd heb gynhyrchiadau, profiadau a theulu Cwmni Theatr Maldwyn. Ac mae hon yn berthynas sy’n parhau hyd heddiw, gan ei fod yn rhan bwysig o dîm ‘Gwydion’, yn chwarae’r drymiau yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod nos Wener.
Eleni, cyflwynir Tlws y Cerddor am Sioe Gerdd - un gân corws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad o’r sioe gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy’n bodoli eisoes.
Y beirniaid eleni oedd Caryl Parry Jones a Robat Arwyn. Derbyniwyd naw o geisiadau eleni, gyda gwaith Deg y Cant yn dod i’r brig ac yn derbyn canmoliaeth gan y ddau feirniaid.
Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan dywedodd Caryl Parry Jones, “Syniad hynod o gyffrous ydi hanes Gwion Bach gan Deg y Cant. Mae’r cyfansoddwr yn awyddus i’r sioe gael ei chynhyrchu yn arddull “War Horse” gyda phypedau ac animeiddio byw yn ôl ei nodiadau ac mae’r gân “Gwion Bach” yn ddechreuad gwefreiddiol i sioe o’r fath mae rhywun yn gallu ‘gweld’ y cynhyrchiad ar y gwrandawiad cyntaf. Mae’n llawn motifs cerddorol cyffrous wrth gyflwyno’r stori mewn modd etherial ac yna tyfu a thyfu cyn cyflwyno’r wrach Ceridwen.
“Gyda’r strwythyr harmonïol, y defnydd o unsain cryf, yr ystod lleisiol, yr offeryniaeth a’r trefniant offerynol a’r llif alawol yn y rhannau unigol mae’n hawdd tynnu’r gynulleidfa i mewn i’r byd ffantasiol, mytholegol yma.
“Mae’n ffrwydro gwreiddioldeb, yn gyffrous o gerddorol ac yn heintus o ddramatig. Fedrwn ni ddim aros i’w gweld hi. Llongyfarchiadau i Deg y Cant am fod yn gwbl gwbl haeddiannol o Dlws y Cerddor a diolch iddo am newid gêr y Sioe Gerdd Gymraeg.”
Rhoddir y Tlws gan Urdd Cerddoriaeth Cymru, a'r wobr ariannol o £750 (Cymdeithas Theatrig Ieuenctid Maldwyn) ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2015