Te bach ar faes yr Eisteddfod yn dathlu pen-blwydd y Wladfa
Beth well na ‘thê bach’ traddodiadol o Batagonia i ddathlu pen-blwydd y Wladfa Gymreig yn 150 o flynyddoedd oed, ac i dynnu sylw at gasgliad unigryw ac amhrisiadwy yn ymwneud â’r Wladfa sydd yn cael ei harddangos ym Mhrifysgol Bangor at hyn o bryd.
Ag yntau yn yr Eisteddfod, wedi iddo ddychwelyd o’r dathliadau ym Mhatagonia, bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn dod i’r ‘Te bach’ ar stondin Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol, am 2.30 prynhawn Llun.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: "Rwyf newydd ddychwelyd o Batagonia, lle cefais gyfle i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa, ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod.
"Mae gan ddisgynyddion yr ymfudwyr a aeth o Gymru i’r Ariannin le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn para am amser hir, ac rwyf wedi mwynhau’r cyfle i atgyfnerthu a dathlu'r cysylltiadau cryf sydd rhyngom o hyd, er bod 7,500 o filltiroedd yn ein gwahanu."
Gan Archifau Prifysgol Bangor y mae’r casgliad mwyaf y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o ddeunydd yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae arddangosfa ‘Y Cymry ym Mhatagonia’, sef detholiad o’r casgliad yma i’w weld ym Mhrifysgol Bangor tan Rhagfyr 18 2015. Mae’r Arddangosfa ar gael yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor yn ystod oriau swyddfa.
Bydd copïau o ddetholiad o’r Arddangosfa ar gael yn y te bach, i gyd fynd â dangosiad ar daflunydd o’r ffotograffau cynnar o’r ymsefydlwyr a rhai o’r bobol frodorol, a dynnwyd gan John Murray Thomas. Bydd Archifydd y Brifysgol, Elin Simpson yn rhoi cyd-destun a Mari Emlyn yn darllen darn o lythyr gan Mihangel ap Iwan, mab Michael D Jones, yn ysgrifennu o’r Wladfa.
Cyfuniad o sawl peth a gasglwyd at ei gilydd o blith mwy na 1500 o eitemau yw Casgliad Patagonia a ddelir gan Archifau Prifysgol Bangor. Mae'n cynnwys llawysgrifau, llythyrau, ffotograffau, dyddiaduron, papurau newydd, llyfrau a chynlluniau'n ymwneud â gwladfa Gymreig Patagonia a sefydlwyd 150 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r dogfennau'n cyflwyno hanesion o lygad y ffynnon a thystiolaeth ffotograffig o fywydau arloeswyr ac ymsefydlwyr y wladfa, gan alluogi i ddarllenwyr fod ag empathi a dealltwriaeth o'r criw o Gymry a ymdrechodd am ryddid ieithyddol a chrefyddol gydag annibyniaeth wleidyddol 8000 o filltiroedd o'u mamwlad.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2015