Wythnos Lawn Ysgol y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn
Mae rhai o staff Ysgol y Gymraeg ymhlith y beirniaid ar dair o brif wobrau llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau a gynhelir rhwng 1 a 8 Awst ym mhentref Meifod. Bydd Yr Athro Jerry Hunter yn beirniadu’r Fedal Ryddiaith, Yr Athro Angharad Price yn beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Athro Athro Gerwyn Wiliams yn beirniadu’r Goron.
Ac mi fydd staff a myfyrwyr yr ysgol hefyd yn brysur ar hyd wythnos yr Eisteddfod.
Am 2.15 brynhawn Sul, 2 Awst, yn y Babell Lên, cynhelir ‘Diolch, John!’, cyfarfod i ddathlu bywyd a gwaith Yr Athro John Rowlands, y beirniad llenyddol a’r nofelydd a fu farw’n gynharach eleni. Roedd John yn un o alumni enwocaf Bangor ac ar ôl ymddeol o’i swydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, dychwelodd i’w hen adran yn Athro er Anrhydedd ac yn ddarlithydd rhan-amser. Trefnir y rhaglen gan Yr Athro Angharad Price a’r Athro Gerwyn Wiliams a bydd cyfeillion a chydweithwyr eraill yn cymryd rhan sef Simon Brooks, Kate Crockett, Fflur Dafydd, Bleddyn Owen Huws, Twm Morys a Siân Teifi. Yn syth ar ôl y cyfarfod cynhelir derbyniad ym mhabell Prifysgol Bangor ar y Maes.
Am 2.15 brynhawn Llun, 3 Awst, yn y Babell Lên, cynhelir sgwrs yng nghwmni’r Athro Peredur Lynch i nodi cyhoeddi cyfrol olaf y diweddar Gerallt Lloyd Owen, Y Gân Olaf. Bydd darlleniadau a pherfformiadau o’r cerddi gan Gwenan Gibbard a John Ogwen, dau o gynfyfyrwyr Prifysgol Bangor, a threfnir y cyfarfod gan Barddas.
Yn ddiweddarach bnawn Llun yn y Pafiliwn, Gerwyn Wiliams yw un o feirniaid cystadleuaeth y Goron a ddyfernir eleni am gerdd rydd ar y testun ‘Breuddwyd’. Bydd cyfle i’w glywed yn trafod y gystadleuaeth honno mewn cyfarfod dan nawdd Llenyddiaeth Cymru yn y Lolfa Lên bnawn Mawrth am 5.45 o’r gloch.
Cyn hynny, am 8.00 o’r gloch nos Lun, cynhelir perfformiad cyntaf Nansi, drama Angharad Price am fywyd Telynores Maldwyn, Nansi Richards, a gomisiynwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru ac a lwyfennir yn Y Stiwt, Llanfair Caereinion tan nos Wener, 7 Awst. Yna am 12.30 ddydd Mawrth, 4 Awst, yn y Cwt Drama, bydd cyfle i glywed Angharad yn sgwrsio am y cynhyrchiad gydag un o gynfyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, ynghyd â’r gyfarwyddwraig Sarah Bickerton. Cadeirydd y sesiwn fydd Dr Manon Wyn Williams, Darlithydd mewn Drama a Sgriptio dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg.
Am 5.00 o’r gloch brynhawn Mawrth yn y Pafiliwn, Angharad Price fydd un o banel beirniad Gwobr Goffa Daniel Owen a ddyfernir am ‘nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau’.
Fore Mercher am 11:00 ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau actio mewn gweithdy ymarferol o dan arweiniad Manon Wyn Williams, cyn enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Brynhawn Mercher, 5 Awst, bydd myfyrwyr Ysgol y Gymraeg sy’n aelodau o Gymdeithas y Ddrama Gymraeg yn perfformio Panto gan Gwenlyn Parry yn Theatr y Maes. Ac yn ddiweddarach bnawn Mercher, bydd Yr Athro Jerry Hunter yn un o feirniaid y Fedal Ryddiaith a ddyfernir am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Dwy/Dau’.
Dan nawdd y cylchgrawn Barddas, bydd Gerwyn Wiliams yn rhan o banel yn trafod cyflwr barddoniaeth Gymraeg gyfoes am 1.00 o’r gloch yn y Lolfa Lên Lolfa bnawn Mercher, 5 Awst.
Fore Iau, 6 Awst, am 11.00 o’r gloch yn y Babell Lên, bydd Peredur Lynch yn traddodi Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards ar ‘Awdlau Eisteddfodol 1858-2014: Pa un oedd yr orau? Pa un oedd y waelaf?’
Brynhawn Gwener, am 2.45 yn y Lolfa Lên, bydd Gerwyn Wiliams yn cymryd rhan yng nghyfarfod lansio rhifyn diweddaraf Taliesin, cylchgrawn Yr Academi Gymreig, yng nghwmni’r nofelydd Robin Llywelyn a’r gantores Gwyneth Glyn.
Ac i gloi’r wythnos brysur, ar ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod, 8 Awst, am 11.15 yn y Babell Lên, bydd Angharad Price yn traddodi darlith am O! Tyn y Gorchudd, y nofel a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2015