Mae ein Lleoliad a Llety Gwesteion wedi ei lleoli yn berffaith wrth ymweld â harddwch traethau â moroedd Gogledd Cymru…
2018 yw ein Blwyddyn y Môr. Rydym ni’n dathlu arfordir rhagorol Cymru ac yn eich gwahodd i ddarganfod profiadau epic ar hyd pob rhan o’n glannau.
Penderfynwch mai eleni fydd y flwyddyn i roi cynnig ar weithgaredd arfordirol newydd – fel caiacio, rhwyf-fyrddio neu arfordira. Neu dilynwch yr afonydd i gyfeiriad y bryniau i ddarganfod glannau gwledig ein llynnoedd a’n cronfeydd dŵr.
Felly beth am ddewis Bangor fel eich canolbwynt am wyliau eleni? Un o'r pethau sy'n ei gwneud yn lleoliad o ddewis yw ei fod wedi ei leoli yng nghanol Eryri, Gogledd Cymru. Mae'r Ganolfan wedi'i amgylchynu gan olygfeydd hardd ac un o lefydd mwyaf poblogaidd y DU ar gyfer heicio a gwyliau awyr agored ar garreg y drws.
#GwladGwlad
Linciau defnyddiol: