Yoyo Wallet
Cewch gynigion ar fwyd a diod ar draws y Brifysgol gyda'r ap teyrngarwch AM DDIM, Yoyo Wallet. Lawrlwythwch yr ap, a chewch bwyntiau bob tro y byddwch yn prynu eitem o unrhyw un o'n lleoliadau bwyd a diod*. Mae pob £1 a wariwch yn werth 100 o bwyntiau, a gellir defnyddio pwyntiau i hawlio talebau y gellir eu defnyddio fel taliad yn ddiweddarach.
Manteision Yoyo:
- Ennill pwyntiau bob amser - Cewch bwyntiau ar bob taliad a wnewch yn allfeydd bwyd a diod y brifysgol*. Mae pob £1 yn werth 100 o bwyntiau!
- Gwobrwyo eich hun - Cyfnewidiwch eich pwyntiau am wobrau o'ch dewis. Mae digon o ddewis gan gynnwys bagel yn y Gegin neu nachos ym Mar Uno.
- Archebu Ymlaen Llaw – Archebwch a thalwch am fwyd cyn cyrraedd!
- Talu’n gyflym ac yn ddiogel - Talwch drwy ddefnyddio Yoyo ar gyfer taliadau cyflym a ddiogel, ac i fanteisio ar yr holl ostyngiadau yn yr allfeydd i gyd *. Cewch dderbynebau digidol yn syth i’r ap.
Peidiwch â chymryd ein gair ni, dyma beth sydd gan fyfyrwyr Bangor i'w ddweud.
I gael yr ap AM DDIM, dilynwch y tri cham yma;
- Lawrlwythwch yr ap
- Creu cyfrif a gosodwch eich addysg / gweithle fel Prifysgol Bangor (Gwyliwch y fideo isod am cymorth cam wrth gam o sut i sefydlu’r ap)
- Talu, casglu pwyntiau teyrngarwch a gwobrau.
Lawrlwythwch yma;
*Bar Uno, Barlows, Caffi Teras, Lolfa Teras, Cegin, Ffynnon, Copa a Siop Ffriddoedd
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin, neu ewch i wefan Yoyo.
I ddysgu sut i lawrlwytho a gosod yr ap, gwyliwch y fideo isod:
I ddysgu sut i ddefnyddio'r gwasanaeth archebu ymlaen llawn gwyliwch y fideo hwn