Hud, lledrith, myth a phropaganda: chwedlau'r oesoedd canol 2024-25
CXC-2029
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Aled Llion Jones
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r chwedlau 'brodorol' Cymraeg, sef rhai o gampweithiau llenyddiaeth yr Oesau Canol yn Ewrop gyfan. Bydd rhai o'r straeon eisoes yn gyfarwydd ichi - megis Pedair Cainc y Mabinogi a "Culhwch ac Olwen" - a chewch archwilio'n fanylach i'w hynodion llenyddol a syniadol.
Byddwn yn edrych ar y berthynas rhwng themâu'r chwedlau a chymdeithas yr Oesau Canol: sut maen nhw'n perthyn i'w cyfnod; a oes yma feirniadaeth o werthoedd y Gymru ganoloesol; beth yw eu gwerth fel propaganda wleidyddol). Wrth ofyn cwestiynau ynghylch diben a phwrpas y straeon, byddwn yn ystyried y berthynas rhwng 'myth' a 'chwedl' , a taflwn gipolwg ar y berthynas rhwng y deunydd hyn ac eiddo traddodiadau 'Celtaidd' eraill megis llenyddiaeth Iwerddon.
Wrth ofyn paham mae'r chwedlau hyn wedi aros yn berthnasol ac yn boblogaidd dros y canrifoedd, cawn gyfle i astudio gwreiddiau'r traddodiadau Ewropeaidd am y Brenin Arthur.
Assessment Strategy
-threshold -(D) dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithdangos gwybodaeth am rychwant o chwedlau Cymraeg yr Oesau Canoldangos gallu i ddadansoddi testunau llenyddol canoloesoldangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonoldangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl erailldangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
-good -(B) dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithdangos gwybodaeth dda am rychwant o chwedlau Cymraeg yr Oesau Canoldangos gallu da i ddadansoddi testunau llenyddol canoloesoldangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonoldangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl erailldangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
-excellent -(A) dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith dangos gwybodaeth sicr am rychwant o chwedlau Cymraeg yr Oesau Canoldangos gallu sicr i ddadansoddi testunau llenyddol canoloesoldangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonoldangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl erailldangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Learning Outcomes
- Amgyffred nodweddion llenyddol y chwedlau 'brodorol'
- Gallu deall rhai nodweddion ieithyddol Cymraeg Canol
- Gallu trafod a dadansoddi arddull rhai o'r chwedlau canoloesol
- Medru bwrw trawsolwg ar yr hyn a drafodir gan ddwyn i mewn ystyriaethau cymharol lle y bo’n briodol.
- Medru ymateb yn feirniadol i ryddiaith Gymraeg yr Oesau Canol
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad
Weighting
50%
Due date
20/05/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
50%
Due date
14/04/2023