Module CXC-3007:
Barddoniaeth Fodern
Barddoniaeth Fodern 2022-23
CXC-3007
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Jason Davies
Overview
Yn ystod y modiwl hwn byddwn yn astudio mewn trefn gronolegol farddoniaeth rhai o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, o T. Gwynn Jones ar ei dechrau hyd at Gwyn Thomas ar ei diwedd. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad o gerddi unigol, ceisir awgrymu cyfraniad pob un o'r beirdd dan sylw at ddatblygiad barddoniaeth Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ceisir dangos hefyd sut y dylanwadodd eu cerddi ar waith beirdd eraill yn ystod y ganrif. O'r herwydd, er mai modiwl yn cynnig astudiaeth ddethol yn hytrach nag un gynhwysfawr yw hwn yn ei hanfod, ni fydd prinder cyfeiriadau cymharol at amryw feirdd eraill wrth fynd heibio. Yn ogystal รข thynnu sylw mewn darlithoedd at fanylion bywgraffyddol a hanesyddol o bwys, cyfeirir hefyd at gysyniadau arwyddocaol fel Rhamantiaeth a Moderniaeth. Ac er mor amrywiol yw gwaith y beirdd dan drafodaeth, un thema y cyfeirir ati droen yn ystod y modiwl yw'r cydchwarae parhaus a welir ym marddoniaeth y ganrif rhwng traddodiad a newydd-deb.
Assessment Strategy
-threshold -Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gwybodaeth am rychwant o feirdd a'u cerddi a phrofi dealltwriaeth ohonyntDangos gallu i ddadansoddi cerddiDangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonolDangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraillDangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-good -Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gwybodaeth dda am rychwant o feirdd a'u cerddi a phrofi dealltwriaeth ohonyntDangos gallu da i ddadansoddi cerddiDangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonolDangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraillDangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
-excellent -Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gwybodaeth sicr am rychwant o feirdd a'u cerddi a phrofi dealltwriaeth ohonyntDangos gallu sicr i ddadansoddi cerddiDangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonolDangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraillDangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.