Module CXC-4009:
Technegau Cyfansoddi
Technegau Cyfansoddi 2024-25
CXC-4009
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
40 credits
Module Organiser:
Angharad Price
Overview
Mae ‘Technegau Cyfansoddi’ yn un o fodiwlau craidd MA: Ysgrifennu Creadigol, ac ynddo bydd cyfle i drafod ystod o weithiau llenyddol gan amryfal awduron. Teilwrir yr union destunau llenyddol a drafodir at ofynion y myfyriwr unigol. Yn ei hanfod, ymholi a wna’r modiwl hwn ynghylch yr iaith lenyddol a’r technegau a fabwysiedir fel rhan o’r broses gyfansoddi. Sylwir yn fanwl ar faterion fel y berthynas rhwng cynnwys a thema gwaith llenyddol a’i gywair a’i dechnegau, ei idiom a’i ieithwedd. Y nod yn y pen draw yw cynllunio rhaglen gydgysylltiol ac ynddi berthynas glòs rhwng darllen ar y naill law ac ysgrifennu ar y llall. Bydd cysylltiad tryloyw felly rhwng y traethawd a osodir a’r portffolio creadigol. Rhoddir sylw i hyfforddiant ymchwil o fewn y modiwlau unigol. At hynny, mewn cyfres o seminarau pwnc-benodol, trafodir amryw faterion sy’n berthnasol i’r broses o ymchwilio ar gyfer gwaith ôl-radd, e.e. cywair priodol ar gyfer traethodau academaidd, llên-ladrad, cywain ffynonellau, trefnu nodiadau, sefydlu llyfryddiaethau. Trwy gyfrwng ymweliadau â llyfrgelloedd ac archifdy PB, tynnir sylw at yr ystod o gronfeydd gwybodaeth sydd ar gael a’u defnyddioldeb i’r ymchwilydd unigol. Yn ogystal â sylw i’r agweddau ymarferol a thechnegol hyn ar weithgaredd ymchwil, bydd cyfle mewn seminarau i gyfranogi o amgylchedd ymchwil Ysgol y Gymraeg ac elwa ar y cyfle i drafod rhaglenni unigol yng nghwmni myfyrwyr ôl-radd ac ymchwil eraill.
Assessment Strategy
-good -B- i B+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Teilyngdod1.dangos gallu da i adnabod, gwerthfawrogi ac arfer grym mynegiannol iaith2.dangos gallu da i ddeall priod nodweddion gwahanol gyweiriau ieithyddol a thechnegau cyfansoddi3.dangos gallu da i ysgrifennu¿n feirniadol4.dangos gallu i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl, yn glir ac yn rhesymegol5.dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys6.dangos gallu da i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol7.dangos gallu da i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth8.dangos gafael dda ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth9.dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-excellent -A- i A* - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Rhagoriaeth1.dangos gallu datblygedig i adnabod, gwerthfawrogi ac arfer grym mynegiannol iaith2.dangos gallu datblygedig i ddeall priod nodweddion gwahanol gyweiriau ieithyddol a thechnegau cyfansoddi3.dangos gallu datblygedig i ysgrifennu'n feirniadol4.dangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed ac annibynnol, ac i gyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus5.dangos gallu datblygedig i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys6.dangos gallu datblygedig i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol7.dangos gallu datblygedig i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth8.dangos gafael sicr ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth9.dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-another level-C- i C+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Pasio1.dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith2.dangos gallu i ddeall priod nodweddion gwahanol gyweiriau ieithyddol a thechnegau cyfansoddi3.dangos gallu i ysgrifennu'n feirniadol4.dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol5.dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill6.dangos gallu i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol7.dangos gallu i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth8.dangos gafael ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth9.dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Learning Outcomes
- Adnabod amryfal enghreifftiau o gyweiriau, arddulliau, idiomau ac ieithweddau o fewn amrediad o weithiau llenyddol, e.e. ffurfiol ac anffurfiol, llafar a thafodieithol, arwrol a ffugarwrol, beiblaidd, mabinogaidd, rhyddieithol blaen a barddonol flodeuog, ffwythiannol a ffeithiol, amlgymalog, sathredig, bratiog ac `ansafonol'
- Cloriannu ymatebion beirniadol i amryfal enghreifftiau o gyweiriau, arddulliau, idiomau ac ieithweddau o fewn detholiad o weithiau llenyddol
- Cyfleu'r hyn y buwyd yn ei drafod ar ffurf traethawd academaidd safonol a strwythuredig.
- Datblygu gwell dealltwriaeth o'r gwahanol dechnegau sy'n rhan o'r broses gyfansoddi
- Gwerthfawrogi a gwerthuso priod nodweddion cyweiriau, arddulliau, idiomau ac ieithweddau
- Ymelwa'n greadigol o'r amryfal enghreifftiau o dechnegau a strategaethau y buwyd yn eu hystyried wrth fynd ati i gynllunio eu portffolio creadigol eu hunain.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
100%