Module CXC-4013:
Astudiaeth Unigol 2
Astudiaeth Unigol: 2 2024-25
CXC-4013
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
40 credits
Module Organiser:
Gerwyn Wiliams
Overview
Mae 'Astudiaeth Unigol: 2' yn un o fodiwlau craidd MA: Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Bydd union gynnwys a chyfeiriad y modiwl yn dibynnu ar raglen unigol y myfyriwr. Bydd y tri modiwl `Astudiaeth Unigol' sy'n 40 credyd yr un yn ymffurfio rhyngddynt yn rhaglen gydlynus a chydgysylltiol a fydd yn paratoi'r myfyriwr ar gyfer y traethawd hir 60 credyd dilynol. Rhoddir sylw i hyfforddiant ymchwil o fewn y modiwlau unigol. At hynny, mewn cyfres seminarau pwnc-benodol, trafodir amryw faterion sy'n berthnasol i'r broses o ymchwilio ar gyfer gwaith ôl-radd, e.e. cywair priodol ar gyfer traethodau academaidd, llên-ladrad, cywain ffynonellau, trefnu nodiadau, sefydlu llyfryddiaethau. Trwy gyfrwng ymweliadau â llyfrgelloedd ac archifdy PB, tynnir sylw at yr ystod o gasgliadau a chronfeydd gwybodaeth sydd ar gael a'u defnyddioldeb i'r ymchwilydd unigol. Yn ogystal â sylw i'r agweddau ymarferol a thechnegol hyn ar weithgaredd ymchwil, bydd cyfle mewn seminarau i gyfranogi o amgylchedd ymchwil Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac elwa ar y cyfle i drafod rhaglenni unigol yng nghwmni'r gymuned o fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwil eraill.
Mae 'Astudiaeth Unigol: 2' yn un o fodiwlau craidd MA: Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Bydd union gynnwys a chyfeiriad y modiwl yn dibynnu ar raglen unigol y myfyriwr. Bydd y tri modiwl `Astudiaeth Unigol' sy'n 40 credyd yr un yn ymffurfio rhyngddynt yn rhaglen gydlynus a chydgysylltiol a fydd yn paratoi'r myfyriwr ar gyfer y traethawd hir 60 credyd dilynol. Rhoddir sylw i hyfforddiant ymchwil o fewn y modiwlau unigol. At hynny, mewn cyfres seminarau pwnc-benodol, trafodir amryw faterion sy'n berthnasol i'r broses o ymchwilio ar gyfer gwaith ôl-radd, e.e. cywair priodol ar gyfer traethodau academaidd, llên-ladrad, cywain ffynonellau, trefnu nodiadau, sefydlu llyfryddiaethau. Trwy gyfrwng ymweliadau â llyfrgelloedd ac archifdy PB, tynnir sylw at yr ystod o gasgliadau a chronfeydd gwybodaeth sydd ar gael a'u defnyddioldeb i'r ymchwilydd unigol. Yn ogystal â sylw i'r agweddau ymarferol a thechnegol hyn ar weithgaredd ymchwil, bydd cyfle mewn seminarau i gyfranogi o amgylchedd ymchwil Ysgol y Gymraeg ac elwa ar y cyfle i drafod rhaglenni unigol yng nghwmni'r gymuned o fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwil eraill.
Assessment Strategy
-threshold -C- i C+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Pasio1.dangos gallu i ysgrifennu'n feirniadol2.dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol3.dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill4.dangos gallu i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol5.dangos gallu i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth6.dangos gafael ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth7.dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-good -B- i B+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Teilyngdod1.dangos gallu da i ysgrifennu'n feirniadol2.dangos gallu i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl, yn glir ac yn rhesymegol3.dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys4.dangos gallu da i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol5.dangos gallu da i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth6.dangos gafael dda ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth7.dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-excellent -A- i A* - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Rhagoriaeth1.dangos gallu datblygedig i ysgrifennu'n feirniadol2.dangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed ac annibynnol, ac i gyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus3.dangos gallu datblygedig i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys4.dangos gallu datblygedig i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol5.dangos gallu datblygedig i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth6.dangos gafael sicr ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth7.dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Learning Outcomes
- Gallu cwblhau traethawd academaidd yn unol â'r confensiynau addas a chan ddefnyddio'r aparatws technegol priodol.
- Gallu cywain deunyddiau perthnasol ar gyfer maes llenyddol neu/ac ieithyddol penodol
- Gallu pwyso a mesur deunyddiau o wahanol ffynonellau'n feirniadol
- Gallu trin a thrafod deunyddiau perthnasol mewn modd academaidd priodol
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
90%
Due date
24/03/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Prawf technegol
Weighting
10%
Due date
24/03/2023