Module CXC-4016:
Hanes y Gymraeg
Hanes y Gymraeg 2024-25
CXC-4016
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - PGT
20 credits
Module Organiser:
Jason Davies
Overview
Bydd tair rhan i’r cwrs:
Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i’r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a’r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a’r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith.
Rhan II Yn yr ail ran archwilir cyd-destun diwylliannol, economaidd a gwleidyddol hanes yr iaith hyd at y 19g., gan roi sylw penodol i’r materion a ganlyn: 1. Y Gymraeg hyd 1536 2. Y Tuduriaid: achubwyr yr iaith? 3. Y Gymraeg a’r Chwyldro Diwydiannol.
Rhan III Yn y drydedd ran cynigir arolwg o’r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i’r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a ‘safoni’ iaith.
Learning Outcomes
- arddangos dealltwriaeth, a hynny mewn cyd-destun hanesyddol, o’r berthynas rhwng y llafar a’r llenyddol yn achos y Gymraeg;
- arddangos gwybodaeth o’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd a ddylanwadodd ar hynt y Gymraeg hyd at y 19g.
- dadansoddi’n feirniadol gyd-destun diwylliannol, economaidd a gwleidyddol hanes y Gymraeg hyd at y 19g.;
- lleoli’r Gymraeg oddi mewn i’r teulu ieithyddol Celtaidd;
- trafod rhai o’r prif ffynonellau sy’n ymwneud â hanes cynnar y Gymraeg;