Module CXD-1013:
Theatr Fodern Ewrop
Theatr Ewrop: Athen, Apocalyps a'r Abswrd 2024-25
CXD-1013
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Angharad Price
Overview
Edrychir ar waith dramodwyr fel Ibsen, Strindberg, Chekhov, Brecht, Beckett ac eraill, a byddwn yn trafod dylanwad gwleidyddiaeth, chwyldro a rhyfel ar ddatblygiad y ddrama yn Ewrop. Trwy astudio cyfieithiadau Cymraeg o rai o ddramâu mawr y byd, dyma fodiwl rhyngwladol sy'n rhoi cefndir gwerthfawr i hanes y ddrama yng Nghymru.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+Dylai'r traethawd a'r atebion yn yr arholiad ddangos cynefindra â'r prif ffynonellau gwybodaeth eraill ynghyd â'r gallu i gywain, dadansoddi a mynegi barn bersonol ar ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael ar gystrawen a theithi'r iaith Gymraeg.
-good -B- i B+Dylai'r traethawd a'r atebion yn yr arholiad ddangos gwybodaeth dda o'r ffynonellau cynradd ac eilaidd safonol ynghyd â'r gallu i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o nifer sylweddol o ffynonellau eraill boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol a gallu i ddadansoddi a beirniadu, mewn modd cytbwys a chlir, ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-excellent -A- i A*Dylai'r traethawd a'r atebion yn yr arholiad ddangos gwybodaeth drylwyr o'r ffynonellau cynradd ac eilradd safonol yn y maes ynghyd â gallu datblygedig i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o rychwant eang o ffynonellau eraill, boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol. Dylai'r farn honno fod yn un annibynnol, aeddfed a threiddgar sy'n dangos gwir allu i ddatblygu dadl glir, estynedig a rhesymegol mewn perthynas a dadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Learning Outcomes
- Dadansoddi'r modd y ceisiodd y dramodwyr hyn gyfleu eu themâu mewn termau theatraidd ar lwyfan.
- Dangos gwybodaeth am gymdeithas yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a esgorodd ar naturiolaeth fel mudiad theatraidd.
- Dangos gwybodaeth am themâu drâmau o eiddo detholiad o ddramodwyr Ewropeaidd o Strindberg ymlaen.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd 1
Weighting
50%
Due date
08/11/2024
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad
Weighting
50%
Due date
20/01/2023