Module HTC-3156:
Rhyfel Cartref America
Rhyfel Cartref America 2023-24
HTC-3156
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Nia Jones
Overview
Y Gogledd a’r De Gwleidyddiaeth yr 1850au Caethwasiaeth Achosion y Rhyfel a’r Argyfwng Arwahanu Ymladd y Rhyfel Abraham Lincoln Y Cymry a’r Rhyfel Y Rhyfel a’r Gorllewin Rhyddhau’r Caethweision Ennill y Rhyfel Adluniad a’i Fethiant
Y Gogledd a’r De Gwleidyddiaeth yr 1850au Caethwasiaeth Achosion y Rhyfel a’r Argyfwng Arwahanu Ymladd y Rhyfel Abraham Lincoln Y Cymry a’r Rhyfel Y Rhyfel a’r Gorllewin Rhyddhau’r Caethweision Ennill y Rhyfel Adluniad a’i Fethiant
PYNCIAU SEMINAR 1. Cyflwyniad: ‘The Second American Revolution’? 2. Yr Argyfwng Adrannol (Sectional Crisis) 3. Achosion – y De a’r Gogledd 4. Lincoln 5. Y Rhyfel yn Nhermau Milwrol 6. Rhyddhau’r Caethweision 7. Profiadau’r Milwyr – gweithdy yn yr archifdy 8. Y Brodorion a’r Rhyfel 9. Rhywedd a rhyfel 10. Adluniad 11. Cofio’r Rhyfel
Assessment Strategy
-threshold -TrothwyBydd myfyrwyr trothwy (40au is) yn dangos ystod neu ddyfnder gwybodaeth addas ar gyfer rhannau o'r maes perthnasol o leiaf, ac yn gwneud ymgeisiadau rhannol lwyddiannus i saernio dadl sy'n ymgymryd a dadleuon hanesyddol. Bydd angen i’r arholiad ddangos gwybodaeth addas o’r pwnc. Bydd angen tystiolaeth o beth gallu dadansoddol neu sgiliau ymchwil yn y traethawd.
-good -Da Bydd myfyrwyr da (C-, C, C+ [50au]) yn dangos lefel uwch o wybodaeth, a’r gallu i gyflwyno dadl gydlynol sy’n cael ei chynnal gan dystiolaeth addas am nifer o agweddau ar y testun. Bydd myfyrwyr da iawn (B-, B, B+ [60au]) yn dangos lefel gadarn o gyrhaeddiad yn yr holl feini prawf a restrwyd yn y paragraffau uchod. Am y ddau, yn yr arholiad bydd angen am dadl berthnasol a chlir, ac yn y traethawd, bydd angen tystiolaeth o sgiliau ymchwil cadarn.
-excellent -Rhagorol Bydd myfyrwyr rhagorol (A-, A, A+, A* [70au ac uwch]) yn dangos y cyrhaeddiad cadarn hwn ar draws yr holl feini prawf ynghyd â dyfnder gwybodaeth drawiadol iawn a/neu allu dadansoddol eithriadol graff. Yn yr arholiad bydd dadlau perthnasol a chlir ynghyd a defnydd trawiadol o dystiolaeth. Yn y traethawd, bydd angen tystiolaeth o gwreiddioldeb neu allu dadansoddol trawiadol ynghyd a sgiliau ymchwil cadarn.
Learning Outcomes
- barnu dehongliadau hanesyddiaethol o'r pwnc, yn cynnwys barnau hanesyddiaethol presennol.
- cyflwyno dadleuon hanesyddol eglur am agweddau ar hanes Rhyfel Cartref America mewn ffurf traethawd gradd, a chefnogi'r dadleuon gyda ffynhonellau cynradd.
- dangos dealltwriaeth manwl a threiddgar o ffynhonellau cynradd unigol o dan amodau arholiad.
- dangos gwybodaeth eang o hanes Rhyfel Cartref America, ei achosion a’i ganlyniadau
- dangos gwybodaeth fanylach o agweddau penodol o hanes America yn y cyfnod.
- llunio dadleuon hanesyddol a’u hatgyfnerthu gyda thystiolaeth o dan amodau arholiad.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad 2 awr Atebwch un cwestiwn traethawd, yn cynnig trosolwg o'r modiwl; mae'r ail gwestiwn yn gwestiwn gobbett, sy'n eich gofyn i drafod a dadansoddi tair ffynhonnell gynradd ar wahân.
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
1 × traethawd 2,500–3,000 gair yn ymwneud ag agwedd penodol o hanes Rhyfel Cartref America (deilliannau 1, 2, 3, 4).
Weighting
50%
Due date
11/01/2024