Module SCU-3005:
Cymdeithaseg Cerddoriaeth
Cymdeithaseg Cerddoriaeth 2023-24
SCU-3005
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
20 credits
Module Organiser:
Rhian Hodges
Overview
Er mwyn cyflawni’r deilliannau dysgu uchod, bydd y themâu a ganlyn yn cael eu trafod:
-
Beth yw Cymdeithaseg Cerddoriaeth?
-
Cyd-destun hanesyddol Cymdeithaseg Cerddoriaeth.
-
Pwysigrwydd cerddoriaeth mewn bywyd cymdeithasol (gan edrych ar y lleol a’r byd-eang [‘glocal’].
-
Cerddoriaeth a hunaniaeth yng Nghymru.
-
Pwysigrwydd cerddoriaeth mewn diwylliannau lleiafrifol yn Ewrop.
-
Cerddoriaeth mewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol (gan gynnwys chwaraeon, siopa/marchnata, gwasanaethau crefyddol a phrotestiadau).
Assessment Strategy
-threshold -Bydd y myfyriwr yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o brif theorïau a phersbectifau ym maes Cymdeithaseg Cerddoriaeth. Bydd y myfyriwr yn arddangos ymwybyddiaeth sylfaenol o ddatblygiadau hanesyddol y maes gan gyfleu dealltwriaeth sylfaenol o berthynas Cerddoriaeth a Chymdeithaseg yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio cysyniadau allweddol gan gyfeirio at ymchwil hanesyddol a chyfredol y maes gan gyflwyno gwaith ysgrifenedig sydd yn cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth sylfaenol. -good -Bydd y myfyriwr yn dangos ymwybyddiaeth dda o brif theorïau a phersbectifau ym maes Cymdeithaseg Cerddoriaeth. Bydd y myfyriwr yn arddangos ymwybyddiaeth dda o ddatblygiadau hanesyddol y maes gan gyfleu dealltwriaeth dda o berthynas Cerddoriaeth a Chymdeithaseg yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio a dadansoddi cysyniadau allweddol y maes gan gyfeirio at ymchwil hanesyddol a chyfredol y maes gan gyflwyno gwaith ysgrifenedig o safon da sydd yn cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth briodol gywir. -excellent -Bydd y myfyriwr yn dangos ymwybyddiaeth feirniadol a gwreiddiol o brif theorïau a phersbectifau ym maes Cymdeithaseg Cerddoriaeth. Bydd y myfyriwr yn arddangos ymwybyddiaeth feirniadol, aeddfed a thrylwyr o ddatblygiadau hanesyddol y maes gan gyfleu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol a gwreiddiol o berthynas Cerddoriaeth a Chymdeithaseg yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio, dadansoddi a gwerthuso’n feirniadol cysyniadau allweddol gan gyfeirio at ymchwil hanesyddol a chyfredol y maes gan gyflwyno gwaith ysgrifenedig o safon arbennig sydd yn cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth gynhwyfawr, eang a threfnus ei naws.