Module UXB-3122:
Theatr a Pherfformio: Yr Hunai
Theatr a Pherfformio: Yr Hunain 2024-25
UXB-3122
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Ffion Evans
Overview
Yn Theatr a Pherfformio: Yr Hunain, byddwch yn astudio perfformiad yng nghyd-destun yr ymarferydd unigol. Gan ddefnyddio perfformwyr a grwpiau perfformio amrywiol ac edrych ar ffurfiau celfyddydol eraill (megis ffotograffiaeth, ysgrifennu, y celfyddydau gweledol) fel enghreifftiau, byddwch yn ymgysylltu’n greadigol â materion yn ymwneud â pherfformiadwyedd, perfformio’n fyw, ymgorfforiad a theatredd. Byddwch yn astudio’r berthynas rhwng perfformio a’r byd y tu allan i’r theatr. Bydd y modiwl hwn yn craffu ar y ffyrdd y gallwch chi fel ymarferydd ddefnyddio ffurfiau newydd ac egnïol ar berfformio i ansefydlogi a chwestiynau syniadau am yr hunan, hunaniaeth, perthyn a bod. Yn ystod y modiwl hwn, byddwch yn ymgymryd â gwaith ymarferol sy’n canolbwyntio ar ddynameg perfformiad byw, ac yn arbrofi ag ef. Mae’r unigolyn yn greiddiol i’r gwaith a chewch gyfle i ddatblygu syniad manwl o’ch hunaniaeth gelfyddydol eich hunain fel crëwr perfformiadau.
Damcaniaethau'r hunan a hunaniaeth mewn perfformiad Perfformiad a llesiant Prosesau ymarfer a chyfarwyddo Creu portffolio Dadansoddi theatr a pherfformiad yn feirniadol
Assessment Strategy
Trothwy (D-, D, D+): •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig •Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Sgiliau grŵp gwan •Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da / Boddhaol (C- i C +) •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol •Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da iawn/Da B- i B+ •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol: •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda •Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
Rhagorol (A- hyd A*): •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
Learning Outcomes
- Asesu ymchwil yn ymwneud a'r hunain mewn perfformiad a disgyblaethau tebyg.
- Cymryd rhan feirniadol mewn dadleuon ynglŷn â gwaith amrywiaeth o fudiadau ac ymarferwyr
- Disgrifio, dehongli a gwerthuso perfformio mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a safleoedd fel sy'n berthnasol i'ch gwaith eich hun.
- Dyfeisio ac arwain project creadigol mewn modd effeithlon ac effeithiol i safon uchel
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Darn perfformiad unigol Yn unigol, datblygu darn perfformiad 15 munud sy’n archwilio’r ymarfer perfformio a ddatblygwyd yn ystod y tymor. Anogir chi i wahodd cynulleidfa gyhoeddus i gymryd rhan yn yr ymchwil hwn sydd â phwyslais ar ymarfer.
Weighting
60%
Due date
09/05/2025
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portffolio sydd yn dadansoddi yn feirniadol y broses greadigol tuag at ymarfer perfformio.
Weighting
40%
Due date
18/04/2025