Module UXC-1062:
Iaith y Ffilm
Iaith y Ffilm 2024-25
UXC-1062
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Dyfrig Jones
Overview
Mae'r cwrs hwn yn fodd o alluogi myfyrwyr i ddysgu hanfodion dadansoddi'r ddelwedd symydol. Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn dysgu terminoleg dechnegol a fydd yn eu cynorthwyo i ddadansoddi a dehongli y modd y mae ffilm yn cyfathrebu ystyr. Bydd darlithoedd unigol yn trafod pynciau megis Mise-en-Scene, Montage, Gwaith Camera, Sain, Goleuo ac Arddull Weledol. Bydd dangosiadau o ffilmiau perthnasol yn cael eu cynnal yn wythnosol, er mwyn cyflwyno engrheifftiau o'r pynciau dan sylw.
Bydd y ffilmiau a ddangosir yn cynnwys: A Man Escaped (Bresson, 1956), The Innocents (Clayton, 1961), City of God (Meirelles, 2002), Atonement (Wright, 2007), Bourne Ultimatum (Greengrass, 2007). The Red Shoes (Powell & Pressburger, 1948), ac Moulin Rouge! (Luhrman, 2001)
Assessment Strategy
-threshold -D Gwybodaeth am feysydd/egwyddorion allweddol yn unig Gwendidau mewn dealltwriaeth o'r prif feysydd Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol Ateb yn canolbwyntio'n wael ar y cwestiwn a chyda pheth gwybodaeth amherthnasol a chynllun gwael Dadleuon yn cael eu cyflwyno ond diffyg cydlyniad Amryw o wallau ffeithiol/cyfrifiannol Dim dehongliad gwreiddiol * Dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau a ddisgrifir. Peth datrys problemau* Llawer o wendidau mewn cyflwyniad a chywirdeb
-good -B Gwybodaeth gref Deall y rhan fwyaf ond nid y cyfan Tystiolaeth o astudio cefndirol Atebion penodol gyda chynllun da Dadleuon yn cael eu cyflwyno'n eglur Fawr ddim gwallau ffeithiol a chyfrifiannol Peth dehongliad gwreiddiol cyfyngedig * Disgrifio cysylltiadau gwybyddus rhwng testunau Rhoi sylw i broblemau trwy ddefnyddio dulliau gweithredu sydd ar gael yn barod* Cyflwyniad da gyda chyfathrebu cywir
-excellent -A Gwybodaeth gwynhwysfawr Dealltwriaeth fanwl * Astudio cefndirol eang Ateb hynod benodol ac wedi ei gynllunio'n dda Dadleuon a gyflwynir ac a amddiffynnir yn rhesymegol Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol Dehongliad gwreiddiol * Datblygu cysylltiadau newydd rhwng testunau Dull newydd o ymdrin a phroblem Cyflwyniad rhagorol gyda chyfathrebu cywir eithriadol
Learning Outcomes
- Darllen a dadansoddi testun delwedd symudol mewn dull strwythuredig a gwybodus
- Deall sut mae strwythur saethu a chyfansoddiad golygfa yn gweithio;
- Defnyddio geirfa dechnegol a geirfa feirniadol sy'n berthnasol i drafodaeth am ddelweddau clyweled;
- Gallu cymathu gwybodaeth weledol a defnyddio'r wybodaeth honno i lunio ymresymiad ysgrifenedig.
- Gallu dadansoddi clipiau ffilm byr, gan dalu sylw at y technegau ffurfiol a ddefnyddir ynddynt;
Assessment type
Summative
Weighting
40%
Assessment type
Summative
Weighting
30%
Assessment type
Summative
Weighting
30%