Module UXC-2057:
Cynhyrchu'r Ffilm Ddogfen
Cynhyrchu'r Ffilm Ddogfen 2024-25
UXC-2057
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Dyfrig Jones
Overview
Yn ystod hanner cyntaf y modiwl, caiff myfyrwyr hyfforddiant ffurfiol ar theori rhaglenni dogfen ac ymarfer y cyfryngau. Bydd y rhan hwn o'r modiwl yn edrych ar sut mae safbwyntiau damcaniaethol yn dylanwadu ar waith ymarferwyr. Bydd hefyd yn rhoi hyfforddiant i fyfyrwyr ar dechnegau cynhyrchu uwch, gan adeiladu ar y technegau a ddysgwyd fel rhan o'r modiwl UXS 1038 Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau. Yn ogystal â hyn, bydd y sesiynau gweithdy a gynhelir yn ystod rhan gyntaf y cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr wneud gwaith cyn-cynhyrchu ar eu projectau terfynol, gan ymgynghori â'r tiwtoriaid. Yn ystod ail hanner y semester, ni fydd disgwyl i fyfyrwyr fynd i sesiynau wythnosol wedi eu hamserlennu. Bydd myfyrwyr yn astudio'n annibynnol yn ystod y cyfnod hwn, gan ddefnyddio'r amser i ddatblygu a chynhyrchu eu project cynhyrchu terfynol. Bydd y tiwtoriaid yn rhoi cefnogaeth, trwy apwyntiad.
Assessment Strategy
-threshold -Gwaith ysgrifenedigTrothwy (40%+)Mae'r gwaith a gyflwynwyd yn foddhaol ac yn dangos lefel dderbyniol o allu fel a ganlyn: Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac yn gadael pethau allan. Yn gwneud honiadau heb dystiolaeth na rhesymu cefnogol eglur. Yn strwythuredig ond yn aneglur ac felly'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau. Yn defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.
-good -Da (50%+)Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos: Strwythur da a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol. Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.Da iawn (60%+) Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos: * Strwythur da iawn a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol. Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.* Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.
-excellent -Rhagorol (70%+) Mae'r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol: Mynegiant gwreiddiol a syniadau'r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg. Yn rhoi tystiolaeth eglur o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.* Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth o'r prosesau ar gyfer cynhyrchu rhaglenni dogfen.
- Dangos sgil technegol sylfaenol mewn un agwedd ar gynhyrchiad grwp.
- Dangos sut mae profiad ymarferol o gynhyrchu'n gysylltiedig â theori cynhyrchu'r cyfryngau.
- Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm cynhyrchu.
- Edrych yn feirniadol ar y broses o gynhyrchu'r cyfryngau yng nghyd-destun theori rhaglenni dogfen.