Module UXC-3033:
Newyddiaduraeth Ddigidol Ymarf
Newyddiaduraeth Ddigidol Ymarferol 2024-25
UXC-3033
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Dyfrig Jones
Overview
Yn y modiwl hwn bydd disgwyl i fyfyrwyr addasu'r sgiliau ysgrifennu, darlledu a chasglu newyddion a ddysgwyd ganddynt yn y modiwl Cyflwyniad i Newyddiaduraeth a'r modiwlau ymarfer newyddiaduraeth yn yr ail flwyddyn ar gyfer yr oes ddigidol, amlgyfrwng. Yn ogystal â chynhyrchu amrywiaeth o gynnwys ar ffurf testun, fideo a sain i lwyfannau digidol, byddant hefyd yn dysgu sut i gynhyrchu cynnwys i ffrydiau'r cyfryngau cymdeithasol, gwefannau ac aps er mwyn rhannu eu gwaith gyda chynulleidfa ehangach. Bydd ystafelloedd newyddion rhithwir a gwaith maes yn meithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol mewn diwydiant lle mae'r newyddiadurwr yn awdur, dyn camera, cyhoeddwr, darlledwr, argraffydd a chyflwynydd ei newyddion ei hun.
Bydd y cwrs yn dechrau gyda chyflwyniad i newyddiaduraeth ar-lein, dylanwad technoleg ddigidol newydd ar newyddiaduraeth a'i goblygiadau i'r cyfryngau traddodiadol. Byddwn hefyd yn trafod y materion moesegol a chyfreithiol sydd ynghlwm wrth gynhyrchu cynnwys ar-lein. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau yn cynnwys sut i gasglu newyddion ar-lein, ysgrifennu a chynhyrchu deunydd gweledol a sain i lwyfannau newyddion digidol a sut i sicrhau bod y cynnwys yn cyrraedd cynulleidfa eang. Bydd disgwyl i chi roi'r sgiliau hyn ar waith a chreu eich llwyfan newyddion digidol eich hun, creu cynnwys i'r llwyfan hwnnw a rhannu'r cynnwys hwnnw gyda'r gynulleidfa fwyaf eang posib.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D-)Dealltwriaeth o hanfodion creu gwefan newyddion Dealltwriaeth o gyfraith, moeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol Dealltwriaeth o ymarferoldeb casglu newyddion ar-lein -good -Da (B/C)Dealltwriaeth dda o hanfodion creu gwefan newyddion Dealltwriaeth dda o gyfraith, moeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol Dealltwriaeth dda o ymarferoldeb casglu newyddion ar-lein -excellent -Rhagorol (A-)Dealltwriaeth ragorol o hanfodion creu gwefan newyddion Dealltwriaeth ragorol o gyfraith, moeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol Dealltwriaeth ragorol o ymarferoldeb casglu newyddion ar-lein
Learning Outcomes
- Cymhwyso ymchwil ar-lein a thechnegau casglu newyddion i asesu'n feirniadol a chymharu amrywiaeth o ffynonellau academaidd ac anacademaidd.
- Evaluate and integrate original content for multi-media online news platforms.
- Gwerthuso, dewis a datblygu llwyfannau cyfryngau priodol fel apiau, blogiau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol
- Technegau beirniadu ar gyfer casglu a lledaenu newyddion digidol.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Cynhyrchwyd gwaith cwrs yn ystod y seminarau ‘rhith ystafell newyddion’.
Weighting
20%
Due date
06/01/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Presenoldeb gwe ar-lein wedi'i gynllunio fel bod cynnwys cyhoeddedig yn cael ei ledaenu i'r gynulleidfa ehangaf bosibl.
Weighting
25%
Due date
16/09/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Portffolio o dri darn o gynnwys newyddion, sy'n addas i'w gyhoeddi ar-lein. Rhaid i un gynnwys testun, y cynnwys fideo arall, a'r llall sioe sleidiau neu bodlediad y gellir ei lawrlwytho. Rhaid i'r myfyriwr hefyd ysgrifennu dadansoddiad beirniadol o sut y datblygwyd a chyflwynwyd y cynnwys newyddion a pha gamau a gymerwyd i'w lledaenu ar-lein.
Weighting
55%
Due date
16/12/2022